Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Medi 2015

Cleifion yn canslo bron hanner yr holl driniaethau a ohiriwyd

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, wedi galw ar gleifion i helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi iddi ddod i'r amlwg bod bron hanner yr holl driniaethau sy’n cael eu gohirio o ganlyniad i gleifion un ai'n canslo neu'n methu eu hapwyntiadau.

Rhwng mis Ebrill 2014 a mis Mawrth 2015, roedd yna bron 330,000 o dderbyniadau dewisol i ysbytai Cymru.

Er hyn, yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 81,606 o driniaethau eu gohirio – sy'n ostyngiad o'r cyfanswm o 82,151 rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014. 

Roedd bron hanner o'r rhain - 38,990 - yn ohiriadau gan y cleifion, lle bydd y driniaeth yn cael ei gohirio ar gais y claf neu mae'r claf yn methu ei apwyntiad. Mae hyn wedi cynyddu rhywfaint o 38,612 yn 2013-14.

Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod 8,677 o driniaethau wedi cael eu cofnodi fel gohiriadau clinigol gan ysbytai – sef bod y claf yn anhwylus neu efallai nad oedd angen y driniaeth ragor.

Y ffaith nad oedd gwelyau ar gael ar y wardiau, neu'r rhestr lawdriniaethau'n rhy hir oedd y rhesymau dros y gohiriadau eraill. Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd gostyngiad o bron 10% yn nifer y gohiriadau nad ydynt yn glinigol.

Dyma ffigurau pob bwrdd iechyd:

* Abertawe Bro Morgannwg – 20,276 o driniaethau wedi'u gohirio; 8,170 gan gleifion (40.2%);

* Aneurin Bevan – 15,658 o driniaethau wedi'u gohirio; 8,411 gan gleifion (53.7%);

* Betsi Cadwaladr – 12,627 o driniaethau wedi'u gohirio; 6,020 gan gleifion (47.6%);

* Caerdydd a'r Fro – 15,660 o driniaethau wedi'u gohirio; 6,952 gan gleifion (44.3%);

* Cwm Taf – 6,576 o driniaethau wedi'u gohirio; 2,489 gan gleifion (37.8%);

* Hywel Dda – 10,114 o driniaethau wedi'u gohirio; 6,509 gan gleifion (64.3%);

* Powys – 695 o driniaethau wedi'u gohirio; 439 gan gleifion (63.1%)

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos mai gohiriadau gan gleifion yw'r rheswm mwyaf tebygol dros orfod aildrefnu triniaeth.

"Er bod angen i'r gwasanaeth iechyd wneud rhagor i rwystro gohiriadau nad ydynt am resymau clinigol,  rydym am greu GIG yma yng Nghymru lle mae pawb yn rhannu cyfrifoldeb, lle mae pobl yn mynychu eu hapwyntiadau a rhoi gwybod i'r gwasanaeth iechyd cyn gynted â phosibl os nad oes angen triniaeth arnynt ragor. Bydd hyn yn golygu bod modd rhoi eu lle ar y rhestr aros i glaf sydd angen y driniaeth."

Newidiodd Llywodraeth Cymru'r ffordd y mae'n casglu data ar driniaethau a ohiriwyd ac a ganslwyd yn y GIG, gan gasglu gwybodaeth am yr holl driniaethau a'r holl resymau dros ohirio.

Mae hyn yn wahanol i'r GIG yn Lloegr sy'n cynnwys llawdriniaethau ac yn cofnodi achosion pan fydd triniaethau'n cael eu canslo am resymau nad ydynt yn glinigol yn unig. 

Rhannu |