Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Hydref 2015

Teithiau rhagflas o ganolfan Pontio Bangor yn cychwyn

Bydd y cyhoedd yn cael y cyfle cyntaf i weld yr hyn sydd y tu ôl i ddrysau Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor, Pontio, wrth i docynnau rhad ac am ddim ar gyfer teithiau rhagflas fynd ar werth heddiw, dydd Iau 15 Hydref, am 10am.

Bydd y teithiau 90 munud o hyd, sy’n cychwyn ar Hydref 28 2015, yn cael eu cynnal dros chwe dyddiad hyd at 17eg o Dachwedd ac yn cynnig cipolwg ar yr adeilad cyfan, sy’n cynnwys gofodau celfyddydau ac arloesi.

Bydd y teithiau tywys yn cynnwys Theatr Bryn Terfel, y Sinema, y Stiwdio, y Ganolfan Arloesi gan gynnwys FabLab; cyfleusterau Undeb y Myfyrwyr, gofodau dysgu a blas o’r hyn fydd y mannau darparu bwyd a diod yn ei gynnig.  Bydd hefyd cyfle i weld Caban, darn o gelf gyhoeddus gan Joep van Lieshout fydd yn cael ei leoli yn nhirlun Pontio.

PERTHNASOL: Cyhoeddi lleoliad Cân i Gymru 2016 wrth i’r dyddiad cau agosáu

Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: “Rydym yn falch iawn o fedru agor y drysau i gymaint o bobl â phosib drwy’r teithiau tywys yma. 

"Mae pobl dinas Bangor a’r ardal wedi gwylio wrth i’r adeilad nodedig yma fynd i fyny ac felly tydi ond yn deg i ni roi cyfle i bawb ddod i edrych o’i gwmpas mor fuan â phosib – wedi’r cwbl, adeilad i bawb yw hwn.”

Mae’r teithiau rhagflas yn rhan o gyfnod rhagflas Pontio, ble mae ystod o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal cyn i’r rhaglen agoriadol gyntaf gychwyn ar Dachwedd 28 gyda Diwrnod Croeso Pontio.  Bydd y rhaglen artistig gyntaf yn cael ei chyhoeddi ddiwedd Hydref i gyd-fynd â dechrau’r teithiau rhagflas.

Gallwch archebu lle ar un o’r teithiau tywys  yma , ffonio Swyddfa Docynnau Pontio ar 01248 38 28 28 neu galw yn siop Pontio ar y Stryd Fawr ym Mhangor.  Digwyddiad am ddim.  Amodol fod lle ar gael.

Mae Pontio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor a Chyngor Celfyddydau Cymru. 
 

Rhannu |