Mwy o Newyddion
Cyhoeddi lleoliad Cân i Gymru 2016 wrth i’r dyddiad cau agosáu
Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru'r flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 5 Mawrth, mae S4C wedi cyhoeddi.
Ac mae'r sianel yn gobeithio denu ymgeiswyr cryf ar gyfer y digwyddiad a fydd yn digwydd yn stiwdio’r BBC ble mae cyfresi poblogaidd fel sioe S4C Jonathan yn cael eu cynnal yn Llandaf, Caerdydd.
Wrth i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ar Dachwedd 20, dynnu’n nes, mae un o gyflwynwyr Cân i Gymru yn credu y bydd y lleoliad yn berffaith ar gyfer y noson.
"Dechreuais fy ngyrfa cyflwyno yn y BBC ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl yno," eglura Trystan Ellis-Morris, cyd-gyflwynydd Cân i Gymru gyda'r gantores a'r cyflwynydd Elin Fflur.
"Mae stiwdio’r BBC yn Llandaf yn lleoliad gwych ar gyfer digwyddiad byw, ac rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i ddenu hyd yn oed mwy o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth," ychwanega.
Cafodd Cân i Gymru 2016 ei lansio'n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod dros yr haf pan ddatgelwyd y bydd y gwylwyr yn penderfynu pwy fydd yn cipio’r teitl a’r brif wobr o £5,000 y flwyddyn nesaf. Bydd ail wobr yn cael ei chyflwyno i'r gân sy’n cael ei hystyried y gorau gan banel o feirniaid yn y stiwdio ar y noson.
Meddai Trystan, “Mae Cân i Gymru yn llwyfan gwych i dalent ein gwlad lle mae cerddorion sefydledig a rhai ifanc yn cystadlu ochr yn ochr a dwi mor falch o fod yn rhan o’r digwyddiad unwaith eto eleni.
“Dy ni wedi cael ymateb da i'r fformat newydd gan y cyhoedd, cerddorion a chyfansoddwyr, ac yn gobeithio am hyd yn oed mwy o geisiadau eleni.
"A pheidiwch ag anghofio fod y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi newid i 20 Tachwedd eleni."
Bydd panel o feirniaid o dan arweiniad y cwmni cynhyrchu teledu Avanti yn dewis yr wyth cân a fydd yn brwydro am y wobr.
Yn dilyn y dyddiad cau, ar 20 Tachwedd, bydd wyth cân yn cael eu dewis i gystadlu yn Cân i Gymru 2016 terfynol. Bydd pedwar o fentoriaid profiadol yn y diwydiant yn gweithio gyda'r cyfansoddwyr a pherfformwyr, gan gymryd dwy gân yr un, i berffeithio'r caneuon yn barod ar gyfer y gystadleuaeth a gynhelir yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.
Os ydych am gystadlu am Cân i Gymru 2016, mae telerau ac amodau llawn a manylion ar sut mae ymgeisio ar gael ar wefan Cân i Gymru 2016: s4c.cymru/canigymru