Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2015

Cynllun yn ceisio annog addysg cyfrwng Cymraeg

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig i weithio fel llysgenhadon er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus eleni, bydd y Coleg yn ymestyn y cynllun gyda’r nod o benodi llysgenhadon ar draws prifysgolion Cymru am y tro cyntaf.

Prif ddyletswydd y llysgennad fydd ymgysylltu â darpar fyfyrwyr a phwysleisio gwerth addysg uwch cyfrwng Cymraeg a phrofi sut maent wedi elwa o dderbyn eu haddysg yn rhannol trwy’r iaith.

Bydd yn rhaid iddynt fod yn gyfarwydd â’r dewis eang o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael a’r holl ysgoloriaethau a gynigir gan y Coleg Cymraeg.

Bydd yn gyfle i’r myfyrwyr ennill rhywfaint o arian yn ogystal â datblygu sgiliau cyflwyno wrth gynorthwyo’r Coleg gyda’r gwaith o gynnal gweithgareddau mewn ysgolion.

Yn ychwanegol, bydd disgwyl iddynt weithio mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru gan gynnwys ffeiriau addysg uwch ac Eisteddfodau rhwng Ionawr a Rhagfyr 2016.

Byddai un o lysgenhadon y Coleg eleni, Megan Meredith-Spurr o Brifysgol De Cymru yn annog eraill i ymgeisio am y rôl:

‘‘Roeddwn i’n poeni am astudio Busnes trwy’r Gymraeg gan nad yw fy ngramadeg yn berffaith ond mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno’n ddwyieithog a’r darlithwyr yn hynod gefnogol. Fel llysgennad, roedd yn braf gallu rhannu’r profiad hwnnw a darbwyllo darpar fyfyrwyr i barhau â’u haddysg Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae bod yn llysgennad yn brofiad gwerth chweil felly rhowch gynnig arni!’’

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys swydd ddisgrifiad a ffurflen gais ar wefan y Coleg Cymraeg. Bydd yn rhaid i bob cais gyrraedd y Coleg Cymraeg cyn 2 Tachwedd 2015.

PERTHNASOL: Panel i achub Pantycelyn

Rhannu |