Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Medi 2015
Gan KAREN OWEN

Panel i achub Pantycelyn

Mae pwyllgor wedi'i sefydlu i reoli'r newidiadau i neuadd breswyl Gymraeg Pantycelyn yn nhref Aberystwyth.

Yn dilyn protestiadau yn gynharach eleni, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud tro pedol ynglyn â chau'r neuadd a sefydlwyd yn 1973 ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, ac maen nhw wedi addo ei hail-agor fel neuadd breswyl eto erbyn 2019.  

Mae disgwyl i adroddiad terfynol Bwrdd Prosiect Pantycelyn gael ei gwblhau erbyn diwedd Ebrill 2016 a chael ei gyflwyno i Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Er nad yw Neuadd Pantycelyn bellach yn neuadd breswyl, fe fydd rhai gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn parhau i ddigwydd yno ac fe fydd gan y myfyrwyr ddefnydd o’r ystafelloedd cymunedol.

“Yn dilyn cyfarfod cyntaf Bwrdd Prosiect Pantycelyn, rwy’n hyderus fod aelodaeth y Bwrdd yn gryf a’r cylch gorchwyl yn gynhwysfawr iawn,” meddai Hanna Merrigan, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, mewn datganiad yr wythnos hon.

“Mae’r trafodaethau’n adeiladol a phwysleisiaf y bydd y myfyrwyr yn ganolbwynt i’r trafodaethau dros y misoedd nesaf. Dw i’n cynrychioli llais y myfyrwyr ar y Bwrdd Prosiect, ac mae’n galonogol gweld bod y Brifysgol yn croesawu ein mewnbwn.

“Hoffwn bwysleisio fod y broses y flwyddyn hon yn gliriach ac yn fwy tryloyw ac rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r Bwrdd yn unfryd ynglŷn â natur a darpariaeth Pantycelyn i’r dyfodol.

“Mae’r camau sy’n cael eu cymryd yn profi bod y Brifysgol o ddifrif am Bantycelyn y tro hwn.

“Dw i hefyd yn croesawu penodiad Elin Jones AC i’r Bwrdd a dwi’n siŵr y bydd y myfyrwyr yn croesawu hynny hefyd oherwydd ei hymroddiad a’i rôl flaenllaw yn yr ymgyrch i achub Pantycelyn.”

Pwy sydd ar y Panel? 
* Gwerfyl Pierce Jones (Cadeirydd y Bwrdd a Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth)
* Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion
* Janet Davies
* Roger Banner (arbenigwr ym maes cyllid)
* Rebecca Davies (Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Prif Swyddog Gweithredol)
* Rhodri Llwyd Morgan (Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth)
* Lewis Donnelly (Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth)
* Hanna Merrigan (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth)
* Elin Haf Gruffydd Jones, aelod o staff y Brifysgol
* Huw Lewis, aelod o staff y Brifysgol
* Elin Royles (Cadeirydd Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
 

Rhannu |