Mwy o Newyddion
Llyfrgell Genedlaethol yn derbyn dyddiaduron Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o fod wedi derbyn dyddiaduron gwleidyddol yr Arglwydd Roberts o Gonwy (Wyn Roberts).
Mae’r 18 cyfrol yn cynnwys deunydd o’r cyfnod 1970 - 1995 tra roedd yn y Swyddfa Gymreig ac yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig.
Mae’r casgliad yn cynnwys ei fyfyrdodau ar ddigwyddiadau’r dydd gyda llythyron rhwng yr Arglwydd Roberts a ffigyrau amlwg fel Arglwyddes Thatcher, Syr John Major a Syr Edward Heath, nodiadau amrywiol a thoriadau o’r wasg.
Mae’r dyddiaduron yn cyfeirio at ystod eang o bynciau gan gynnwys Etholiadau Cyffredinol, ymddiswyddiad Arglwyddes Thatcher a Rhyfel y Falkland, ond mae llawer iawn yn ymwneud â materion Cymreig.
Yn eu plith mae rhai o brif newidiadau’r 1980au a dechrau’r 90au fel sefydlu S4C, dysgu Cymraeg mewn ysgolion, buddsoddi yng Nghymru gan gwmnïau tramor a Deddf yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol yr Archif Wleidyddol Gymreig: “Mae’r casgliad arbennig hwn yn rhoi dealltwriaeth i ni o nifer o brif ddadleuon gwleidyddol Cymru a Phrydain yn y 1970au a thrwy gyfnodau Thatcher a Major.
"Mae’n rhoi barn bersonol yr Arglwydd Roberts ar brif ddigwyddiadau’r cyfnod ac yn olrhain hanes trafodaethau a negodi o fewn y llywodraeth a gyda’r pleidiau eraill i sicrhau bod mesurau’n llwyddo. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y casgliad.”
PERTHNASOL: Penodi Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru