Mwy o Newyddion
Penodi Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymruwedi cyhoeddi fod Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell wedi penodi Linda Tomos fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd dros-dro.
Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Rwyf yn falch iawn fod Bwrdd y Llyfrgell wedi penodi Linda Tomos fel Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
"Mae gan Linda gysylltiad hir ac agos â’r Llyfrgell drwy ei hamrywiol swyddogaethau o fewn Llywodraeth Cymru.
"Bu’n mynychu cyfarfodydd ein Bwrdd am naw mlynedd ac mae’n llyfrgellydd cymwysedig sydd wedi gwneud ei marc mewn ffordd nodedig iawn ym maes rheoli gwybodaeth."
Bydd Linda yn ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr MALD (Is-Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd), Llywodraeth Cymru ar 31 Hydref gan gychwyn yn y Llyfrgell ar 1 Tachwedd.