Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Medi 2015

Ffilmio i ddechrau ar nofel boblogaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

WRTH i ail gyfres o’r Gwyll gyrraedd ein sgriniau mae Ceredigion yn paratoi unwaith eto i fod yn gefnlen ar gyfer ffilm newydd sbon, wedi ei seilio ar gynnyrch buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen ac wedi ei gosod yn un o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru. 

Mae Y Llyfrgell, ffilm fawr gyntaf y cyfarwyddwr nodedig Euros Lyn, yn seiliedig ar nofel arbennig a phoblogaidd Fflur Dafydd o’r un enw. Dyma ddrama gyffrous wedi ei gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru gyda Ryland Teifi (35 Diwrnod, Tir) Catrin Stewart (Stella, Doctor Who), Dyfan Dwyfor (Pride, Y Gwyll/Hinterland) a Sharon Morgan (Resistance, Torchwood) ymysg ei sêr. Yn y ffilm cyflwynir rhai o’r cyfrinachau a’r celwyddau sydd wrth galon stori dda, gan ofyn pwy mewn gwirionedd sydd â’r hawl i ddweud yr hanes.

Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei chynhyrchu gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg.  Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C a fydd yn gyfrifol am ddarlledu rywdro yn y dyfodol. 

PERTHNASOL: Euros Lyn i'w anrhydeddu â Gwobr Siân Phillips

PERTHNASOL: Penodi Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Wedi i’r awdures enwog, Elena Wdig (Sharon Morgan), ladd ei hunan, mae ei dwy ferch, Nan ac Ana  (Catrin Stewart), y ddwy yn efeilliaid ac yn llyfrgellwyr, yn naturiol yn teimlo ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena’n awgrymu mai ei chofiannydd, Eben (Ryland Teifi)a’i lladdodd . Felly, yn ystod rhyw sifft waith gyda’r nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar ymchwiliad i’r llofruddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dial am farwolaeth eu mam, ond pwy ddaw ar eu traws ond Dan, y porthor nos (Dyfan Dwyfor), a chaiff yntau ei lusgo i mewn i’r saga.

Mae’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn edrych ymaen yn eiddgar at gychwyn ar ei ffilm gyntaf.

Meddai: “Fel ffan arbennig o’r genre hwn, rwy’n hynod gyffrous o gael creu ‘thriller’ yn y Gymraeg, a pha le gwell ar gyfer hyn na Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i naws atmosfferig a’i lleoliad uwchben tref Aberystwyth?

“Mae gan Gymru bellach liaws o awduron, actorion a  chynhyrchwyr o’r radd flaenaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda chymaint ohonynt ar y ffilm.”
Gwnaeth Euros Lyn enw iddo’i hun fel cyfarwyddwr nifer o raglenni Cymraeg poblogaidd megis Pam Fi Duw, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw, Gwyfyn yn ogystal â Belonging. Cyfarwyddodd hefyd sawl pennod o Doctor Who gan gynnwys The Girl In The Fireplace (a enillodd wobr Hugo), a Torchwood: Children Of Earth; mae hefyd wedi gweithio ar Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley a Daredevil,  sydd rhyngddynt wedi ennill pum gwobr BAFTA am Gyfresi Drama Gorau, tair gwobr BAFTA am y Cyfarwyddwr Gorau, ac Emmy Rhyngwladol. 

Mae Fflur Dafydd yn gynhyrchydd, yn gantores, ac yn awdur nofelau a rhaglenni teledu, ac eisoes wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am Y Llyfrgell.

Meddai: “Fel ffilm y dychmygais y syniad hwn yn wreiddiol, ond ysgrifennu llyfr a wnes i yn y pen draw.

“Mae gweld y cymeriadau yma’n dod yn fyw ar y sgrîn fawr yn dod â’r freuddwyd yn fyw, a theimlaf yn ffodus iawn o gael cydweithio gyda chyfarwyddwr hynod dalentog a chast rhagorol, a gweld pawb yn cyfrannu eu gweledigaeth unigryw eu hunain i’r prosiect.”

Mae’n awdur pum nofel ac un casgliad o storïau byrion, ac enillodd wobr yr Oxfam Hay Emerging Writer yng Ngŵyl y Gelli yn 2009 am ei nofel Twenty Thousand Saints. Yn ogystal ag addasu Y Llyfrgell ar gyfer y sgrîn, bydd Fflur hefyd yn cyd-gynhyrchu’r ffilm gydag Euros Lyn. 

Tra bod gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru broffil cenedlaethol a rhyngwladol o bwys dyma’r tro cyntaf iddi agor ei drysau i brosiect o’r fath, fel yr eglura Avril E. Jones, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell: “Mae natur ein gwaith a phroffil yr adeilad ei hun yn golygu bod gennym lawer o gynhyrchwyr rhaglenni yn dod yma i recordio, ond dyma’r tro cyntaf i ffilm gael ei gosod yma.

“Mae pensaernïaeth yr adeilad yn naturiol yn cyfleu naws o ddirgelwch ar gyfer prosiect o’r fath ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilm orffenedig.”

Lluniau: Euros Lyn a Fflur Dafydd

Rhannu |