Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Medi 2015

Twf Triathlon yng Nghymru

Y mae Mis Medi wedi bod yn brysur ar gyfer triathlon yng Nghymru.  Yn gynharach yn y mis fe gynhaliwyd dau driathlon llwyddiannus pan gymerodd 3,260 o bobl ran yn ironman yn Sir Benfro a Sandman ar Ynys Môn, dros yr un penwythnos.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod diddordeb yn nhriathlon yng Nghymru yn tyfu’n gynt nag erioed, gan roi hwb i’r economi leol.
 
Mae nifer y bobl sydd wedi ymuno â Triathlon Cymru, sef y corff llywodraethu cenedlaethol yng Nghymru, wedi mwy na dyblu dros y pedair blynedd diwethaf, o 500 yn 2011 i 1,300 yn 2014. Bu cynnydd o 22% yn y nifer sy’n cymryd rhan yn y gamp yng Nghymru yn 2014, a chynhaliwyd dros 70 o ddigwyddiadau yma yn 2014.

PERTHNASOL:  Cynnig llwybr beicio yng nghanol dinas Abertawe

Daeth 2,400 o athletwyr, yn cynrychioli 30 o wledydd, ynghyd i gystadlu yn Ironman yn Sir Benfro ar y 13eg o Fedi. Ers ei ddechrau yn 2011, pan gymerodd 1,478 o athletwyr ran yn yr her, mae Ironman Cymru wedi hen ennill ei blwyf yn y maes. Eleni, roedd 50% o’r bobl oedd yn rhoi cynnig arni yn gwneud hynny am y tro cyntaf. Hefyd, roedd 238 o’r athletwyr oedd yn cymryd rhan yn dod o Sir Benfro, sydd i fyny 10% ar y llynedd.
 
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ironman, Kevin Stewart: "Mae Ironman Cymru wedi ennill ei enw da, nid yn unig fel un o’r rasys Ironman anoddaf, ond hefyd fel yr un sy'n cynnig yr awyrgylch gorau i athletwyr.

"Eleni fe gafodd y nifer uchaf eto o drigolion a plant lleol eu hysbrydoli i gymryd rhan,  fel welodd Ironkids Cymru dwf digyffelyb, gyda dros 1,200 o blant 3-14 oed yn cystadlu eleni.

"Ni ellid fod wedi cyflawni hyn heb y gefnogaeth helaeth ledled Sir Benfro, ynghyd â Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro."
 
Mae Triathlon Sandman ar Ynys Môn, sy’n cael ei drefnu gan gwmni Always Aim High Events, wedi gweld cynnydd o 218% dros y bedair blynedd ddiwethaf, tra bod Snowman sydd yn cymryd lle dros y penwythnos yma wedi gweld twf o 231%.
 
Yn sgil llwyddiant yma fe ddwedodd Tim Lloyd, Cyfarwyddwr Always Aim High: “Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl yn rhoi cynnig ar y triathlon fel hobi ac fel cystadleuaeth fwy ffurfiol.

"Dros y 4-5 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld twf rhyfeddol yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan.

"Mae llawer o fanteision i’r rhieni sy’n gwneud y gamp hon, gan gynnwys y manteision amlwg i iechyd.

"Gellir gwneud gwahanol bellteroedd: pellteroedd gwib Olympaidd, ochr yn ochr â chategorïau grwpiau oedran.

"Mae’n bosibl mai’r triathlon yw un o’r campau mwyaf cynhwysol yn y byd.

"Mae’n wych gweld mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan.”

Dywedodd Beverley Lewis, Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru: “Mae Triathlon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod triathlon yn agored i bawb.

"Mae’r amrywiaeth o leoliadau lle gellir cynnal triathlon, a’r amrywiaeth o bellteroedd y gellir rasio drostynt, yn gwneud triathlon a’r campau cysylltiedig, fel acwathlon a  deuathlon, yn gampau sy’n agored i bawb. 
 
“Mae paratriathlon yn tyfu ledled Cymru hefyd. Cynhaliwyd Pencampwriaeth Prydain yn Llanelli y llynedd. Rydym yn gweithio gydag elusen Tenovus i ddenu mwy o ferched at y chwaraeon ac rydym yn trafod gyda Streetgames i geisio mynd â fersiwn o’r chwaraeon i leoliadau yn y gymuned. Nid yw ein rasys i ddechreuwyr a’n rasys lefel mynediad yn ddrud ac nid oes rhaid cael yr offer drudfawr y mae’r bobl broffesiynol yn ei ddefnyddio.”

O ran demograffeg y bobl sy’n gwneud triathlon, mae ar ei fwyaf poblogaidd ymysg pobl 40-44 oed, sydd ag incwm o tua £45,000 y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu effaith economaidd sylweddol: am ras sydd â 1,000 o bobl yn cymryd rhan, yn ogystal â’r bobl sy’n gwylio ac ymweliadau paratoadol, gall yr effaith economaidd fod yn fwy na £250,000.   Amcangyfrifir fod triathlon yn werth cyfanswm o tua £363 miliwn i’r Deyrnas Unedig yn 2014, sy’n gynnydd o 14% ers 2013.

Rhannu |