Mwy o Newyddion
Cynnig llwybr beicio yng nghanol dinas Abertawe
Gallai beicio yng nghanol dinas Abertawe gael hwb pellach gyda chynigion i greu llwybr newydd drwy'r brif ardal siopa.
Byddai'r cynigion yn cyd-fynd â chreu llwybr beicio un ffordd ar hyd Ffordd y Brenin a allai greu llwybr cylchol drwy ganol y ddinas, a dyma'r tro cyntaf y byddai beicio'n cael ei ganiatáu yn yr ardal siopa i gerddwyr.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Cyngor Abertawe gynlluniau i greu llwybr beicio dau fetr o led ar hyd Ffordd y Brenin pan fydd newidiadau'n cael eu cyflwyno'n ddiweddarach eleni a bydd yn cynnwys dileu traffig i'r dwyrain ar hyd llwybr y metro.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella'r rhwydwaith beicio a cherdded drwy ganol y ddinas. Mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy'n rhoi amgylchedd diogel i feicwyr deithio.
"Mae'r gwaith a gynlluniwyd ar hyd Ffordd y Brenin i'w throi'n llwybr un ffordd wedi rhoi cyfle i ni gyflwyno llwybr beicio dynodedig ar ei hyd.
"Bydd ein cynigion diweddaraf hefyd yn edrych ar greu llwybr beicio ychwanegol drwy ganol y ddinas i ddarparu system deithio ddwy ffordd ar draws y ddinas."
Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi cwblhau ymgynghoriad 12 wythnos fel rhan o'r Ddeddf Teithio Byw a ddaeth i rym ym mis Medi'r llynedd. Mae'r ddeddf yn galw ar gynghorau i nodi, cynllunio a pharhau i wella rhwydweithiau teithio byw a ddefnyddir gan gerddwyr a beicwyr.
Mae tua 50km o lwybrau beicio yn Abertawe gan gynnwys dau rwydwaith beicio cenedlaethol.
Mae rhan dwy gilometr o hyd o'r llwybr beicio wedi'i chwblhau ar hyd Ffordd Fabian sy'n cysylltu'r campws newydd â chanol y ddinas.
Ychwanegodd y Cyng Hopkins: "Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o gyfleoedd ariannu yn y blynyddoedd diweddar i wella'r rhwydwaith beicio, yn arbennig canol y ddinas lle rydym yn ceisio annog beicio fel dull arall o gludiant i bobl sy'n dod i ganol y ddinas.
"Mae llwybrau beicio a cherdded a rennir wedi'u datblygu o amgylch y Marina, y glannau ac ar hyd Heol Ystumllwynarth fel rhan o'r cynllun Cysylltiadau â'r Glannau."