Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Medi 2015

Newidiadau i wasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol yn ddiogel

Mae adolygiad gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi dweud bod newidiadau i wasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol yn y Gorllewin yn ddiogel, yn gynaliadwy yn y tymor hir a’u bod wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod.
 
Ym mis Ebrill 2013, cafodd cynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ad-drefnu gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol yn y Gorllewin eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru gan y Cyngor Iechyd Cymuned, i wneud penderfyniad ffurfiol yn eu cylch.
 
Ym mis Ionawr 2014, yn dilyn cyngor gan banel o arbenigwyr annibynnol, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, y byddai'r gwasanaethau hyn yn cael eu canoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle byddai uned newyddenedigol leol newydd yn cael ei chreu; cafodd gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr hefyd eu canoli yn Ysbyty Glangwili a chafodd uned newydd dan arweiniad bydwragedd ei sefydlu yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.
 
PERTHNASOL:   Annog pobl leol i leisio eu barn ar ddyfodol gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd

Fel rhan o'r newidiadau a gyflwynwyd ym mis Awst 2014, trefnodd y Gweinidog bod cyfres o fesurau cadarn yn cael eu rhoi ar waith fel rhwyd ddiogelwch yn Ysbyty Llwynhelyg tra bod yr uned dan arweiniad bydwragedd yn cael ei sefydlu'n llawn. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys cerbyd a chriw ambiwlans penodedig ar gyfer trosglwyddo menywod beichiog a babanod newydd-anedig ar frys i Ysbyty Glangwili, ac ymgynghorydd obstetreg a gynecoleg ar alwad ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau.
 
Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda newidiadau pellach i wasanaethau pediatrig mewnol yn ysbyty Llwynhelyg ac ysbyty Glangwili ym mis Hydref 2014.
 
Comisiynwyd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) i werthuso’r newidiadau ym mis Mehefin 2015. Bu tîm adolygu, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r RCPCH, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, Coleg Brenhinol yr Anesthetyddion, Coleg Brenhinol y Bydwragedd a’r Coleg Nyrsio Brenhinol, yn adolygu’r gwasanaethau, drwy ymgysylltu'n helaeth â staff, y cyhoedd a phobl sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaethau dros y 18 mis diwethaf.
 
Daeth yr adolygiad i'r casgliad nad oes tystiolaeth bod unrhyw niwed wedi'i achosi i gleifion o ganlyniad i'r newidiadau, a'u bod yn gynaliadwy yn y tymor hir. Dywedwyd bod y gwasanaethau newydd yn ddiogel; eu bod yn darparu canlyniadau gwell i famau a babanod; bod cydymffurfiaeth well â safonau proffesiynol a bod mwy o fenywod yn cael gofal yn ardal Hywel Dda o gymharu â'r hen drefn.
 
Mae’n dod i’r casgliad na fyddai’n gwneud synnwyr clinigol o gwbl i wrthdroi’r penderfyniadau mawr a wnaed y llynedd ynghylch ail-drefnu.
 
Dywedodd hefyd bod menywod sy'n defnyddio'r cyfleusterau bron i gyd yn dweud iddynt gael profiadau cadarnhaol.
 
Yn ôl yr adolygiad, roedd ofnau'r cyhoedd ynghylch diogelwch y gwasanaeth yn ddi-sail ar y cyfan, ond roedd pryderon go iawn wedi deillio o'u profiadau a phrofiadau pobl eraill, ac effeithiodd hyn ar eu hyder yn y gwasanaethau.
 
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Rwy'n croesawu'r adolygiad, sy'n rhoi sicrwydd pellach i bobl Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin bod y gwasanaethau hyn yn ddiogel a'u bod wedi arwain at ganlyniadau gwell i famau a babanod. 
 
"Rwy'n derbyn yr holl argymhellion y mae'r tîm adolygu wedi'u gwneud mewn perthynas ag elfennau o’r rhwyd ddiogelwch y gofynnais iddyn nhw gael eu rhoi ar waith."
 
Mae'r adolygiad wedi argymell bod ail gam y gwelliannau i ystad Ysbyty Glangwili, a fydd yn gwella amgylchedd yr uned famolaeth, yn cael ei wneud yn gynt. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno achos busnes yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf.
 
Bydd y bwrdd iechyd yn trafod adroddiad manylach gan yr RCPCH yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.

Rhannu |