Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Medi 2015

Annog pobl leol i leisio eu barn ar ddyfodol gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Hywel Williams a’r Cynghorydd Siân Gwenllian, yn annog pobl ar draws Gogledd Orllewin Cymru i ddweud eu dweud ar gynllun arfaethedig i is-raddio gwasanaethau mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd Bangor, o flaen penderfyniad ar ddyfodol darpariaeth gwasanaethau i ferched ar draws Gogledd Cymru.

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb Plaid Cymru Arfon yn gwrthwynebu is-raddio’r gwasanaethau, gyda pobl ar draws y Gogledd Orllewin ac ymhellach i ffwrdd yn cefnogi’r alwad i gadw gwasanaethau mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd.

Mae Mr Williams a Ms Gwenllian yn annog pobl o’r Gogledd Orllewin i fynychu cyfarfod, sy’n cael ei gynnal yng nghae Nantporth, Clwb Pêl Droed Dinas Bangor ar Ddydd Llun Medi 28 am 1.30yp a 5.30yp, lle bydd swyddogion o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn amlinellu eu cynlluniau.          

Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae’n rhaid i ni wrthwynebu’r nweidiadau yma. Mae’r amser teithio ychwanegol yma yn faich a allai beryglu iechyd ac yn yr achosion mwyaf difrifol, beryglu bywydau.

"Gall teuluoedd sy’n byw cyn belled a Llangefni ar Ynys Môn neu Aberdaron ym Mhen Llŷn wynebu cylchdaith o 145 millitr i Ysbyty Glan Clwyd. Mae hyn ynddo’i hun yn daith llafurus, ond pan fo babi newydd anedig yn y cwestiwn, mae’n annerbyniol ac yn bwysau diangen ar deuluoedd.”      

Dywedodd y Cyng. Siân Gwenllian: “Mae’r cynllun i is-raddio gwasanaethau mamolaeth llawn yn Ysbyty Gwynedd yn afresymol ac annerbyniol, o ystyried rhai o’r pellteroedd teithio sydd eisoes yn wynebu teuluoedd i gael mynediad i wasanaethau yn Ysbyty Gwynedd.   

"Mae sôn mai dim ond dros dro fydd y newidiadau. Ond mae ‘na ymroddiad tymor hir i ddatblygu gwasanaeth obstetreg o’r radd flaenaf ac uned newydd-anedig (SURNICC) yn Ysbyty Glan Clwyd. Does dim syndod felly fod unrhyw sôn am is-raddio dros dro yn pery gofid i bobl ar draws y Gogledd; o Llangefni i Bermo; o Abersoch i Flaenau Ffestiniog.

"Rhaid i ni oll wneud ein gorau glas i wrthsefyll y newidiadau yma. Rwy’n annog pobl lleol i fynychu’r cyfarfod yma gan anfon neges clir i uwch swyddogion y Bwrdd Iechyd. Dyma gyfle i bobl leisio eu barn a datgan eu gwrthwynebiad; ni fyddwn yn derbyn symudiad i’r Dwyrain yn ein gwasanaeth iechyd.” 

Rhannu |