Mwy o Newyddion
Ychydig dros wythnos sydd ar ôl i ddweud eich barn fel rhan o ymgynghoriad y BBC
Mae bos y BBC yng Nghymru wedi awgrymu y gallai rhaglenni pobl ifanc Radio Cymru gael eu tynnu oddi ar yr amserlen a'u rhoi ar y we, dan label brand gorsaf ieuenctid Saesneg.
Un o argymhellion Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, ar gyfer rhaglenni C2 Radio Cymru, ydi eu darlledu'n unig ar gyfrifiaduron a ffonau symudol, a'u hail-frandio yn Radio (1) One Cymru.
Fe wnaeth yr awgrym am y tro cyntaf chwech wythnos yn ôl, mewn anerchiad ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ym Meifod. Erbyn hyn, mae'r amser sy'n weddill i unigolion a mudiadau ymateb i'r awgrymiadau, ychydig dros wythnos. Dedlein derbyn sylwadau ydi wythnos i ddydd Llun nesaf, sef Hydref 5.
PERTHNASOL: Cyfarwyddwr BBC Cymru - Rhaid i ogledd Cymru gael lle canolog yn ein cynnyrch
"Os 'ych chi’n rhannu fy angerdd am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, am y BBC a S4C, mae’n amser codi’ch llais," meddai Rhodri Talfan Davies. "Peidiwch â meddwl y bydd popeth yn iawn os edrychwch chi’r ffordd arall. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwn ni’n dod trwyddi.
"Os y’ch chi’n credu bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig… Os y’ch chi’n credu ei fod yn sail i’r iaith ac i ffyniant yr iaith… Os y’ch chi’n credu ei fod yn cyfoethogi ac yn meithrin ein cenedl a’n cymuned... Os y’ch chi’n credu’r pethau hyn i gyd, mae’n amser dweud eich dweud."
Felly, beth mae Rhodri Talfan Davies wedi'i awgrymu er mwyn gyrru'r cwch cyfryngol hwn i'r dwr? Yn gyntaf, bod angen meddwl yn wahanol mewn byd digidol sy'n newid yn gyflym. Byd ydi hwn, meddai, lle mae angen i'r BBC "plethu ein hunain i fywydau’r gynulleidfa - ac nid y ffordd arall".
"Mae’n rhaid i ni fod lle ma’n nhw – a pheidio â disgwyl iddyn nhw chwilio amdanom ni," meddai yn ei araith. "Mae’n rhaid i ni eu hysbrydoli nhw i droi at y Gymraeg – a pheidio byth â chymryd yn ganiataol y byddan nhw’n troi ato ni o’u gwirfodd. Mewn gair, rhaid i ni fynd â’r iaith ar daith i’n cynulleidfaoedd. Yr iaith ar daith."
* Dyna pam mae'r BBC wedi "trawsnewid amlygrwydd gwasanaethau Cymraeg ar wasanaethau symudol ac arlein Newyddion", meddai.
* Dyna pam mae ap newydd Newyddion y BBC yn gadael i’r defnyddiwr greu llif dwyieithog o straeon newyddion – gan blethu eu hoff straeon Cymraeg a Saesneg, yn hytrach na gorfodi’r defnyddiwr i ddewis iaith.
* Ar iPlayer, dyna pam mae'r BBC wedi gwrthod yr "hen ffordd o ynysu’r rhaglenni Cymraeg a Saesneg mewn ffrydiau ar wahân". Yn hytrach, maen nhw gyda’i gilydd.
* Dyna pam, meddai wedyn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y BBC wedi "cymryd camau sylweddol i roi amlygrwydd go iawn i’r Gymraeg ar wasanaethau teledu’r BBC ar BBC One a BBC Two – mewn rhaglenni fel Hinterland, Country Midwives, Make me Welsh, Patagonia, Welsh Heartland a The Hill Farm".
* A dyna pam, meddai wedyn, "ei bod hi’n wych" bod Y Gwyll ar S4C bellach i’w gweld ar y gwasanaeth ar-alw mwyaf y byd, Netflix.
Er mwyn goroesi yn y byd newydd yma, sy'n un "dryslyd" yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, mae Rhodri Talfan Davies yn dweud fod angen i'r Gorfforaeth fod yn hyblyg. Arbrofi. Dysgu’n gyflym. A dod o hyd i "lyfr rheolau newydd".
Radio Cymru 2
"Bydd nifer ohonoch yn gwybod bod rhai wedi bod yn galw am ail orsaf radio genedlaethol ar gyfer gwrandawyr ifancach," meddai Rhodri Talfan Davies. "Yr hyn sy’n cael ei alw’n weithiau fel Radio Cymru Dau.
"Mae’r ddadl yn syml iawn: allwch chi ddim gofyn i un orsaf fod yn bopeth i bawb os y’ch chi am lwyddo. Felly, yn anochel, mae angen dau wasanaeth Radio Cymru. Mae yna resymeg greddfol fan hyn – ond, mae yna rywbeth sydd ddim cweit yn teimlo’n iawn i fi.
"Ydyn ni mewn peryg o ateb sialens fodern iawn gydag ymateb ychydig yn hen ffasiwn? Y dyddie hyn, mae yna sbectrwm o opsiynau ar gyfer diwallu anghenion grwpiau cynulleidfa gwahanol."
A dyna pryd y mae'n dadlau - oherwydd bod modd i donfeddi radio gael eu hollti mewn rhannau gwahanol o Gymru neu yn ystod rhannau gwahanol o’r dydd i ddarparu mwy nag un gwasanaeth - y gallai gwasanaethau arlein alluogi'r BBC, a Radio Cymru yn benodol, i gyrraedd grwpiau gwahanol heb gostau darlledu traddodiadol.
"Trwy ddefnyddio cysylltiad dwy-ffordd y rhyngrwyd, gallwn ddechrau darparu gwasanaethau sydd wedi eu teilwra’n arbennig.
Efallai bod opsiynau mwy radical fyth i ni ystyried..."
A beth am gymryd brand llwyddiannus yn Saesneg, a'i ddefnyddio fel brand ymbarel tros wasanaeth ieuenctid yn Gymraeg?
"Cymerwch Radio One fel enghraifft," meddai Rhodri Talfan Davies. "Dyma i chi frand pobl ifanc sy’n adnabyddus ac sy’n cael ei garu gan dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru – gan gynnwys dros 100,000 o siaradwyr Cymraeg o dan 30 oed.
"Mae’n deall cynulleidfaoedd ifanc – o bosib yn well nag unrhyw frand cyfryngau arall yn Ewrop. Yn fras, mae’n cael ei garu, mae’n gredadwy ac mae’n gweithio. Ond mae’n Saesneg yn dyw e?
"Wel, ydi - ar hyn o bryd. Ond eto, mewn byd o bersonoli – lle mae’r rhyngrwyd yn ein galluogi i deilwra pob brand yn fanwl i ddiwallu anghenion pob defnyddiwr - bydde dim byd yn ei rwystro rhag cael ei ddarparu mewn dwy iaith. Gwasanaethau sain, fideo a newyddion wedi eu teilwra i genhedlaeth o siaradwyr Cymraeg ifanc.
"Mae yna nifer o syniadau fel hyn sydd angen eu datblygu ymhellach cyn setlo ar yr ateb cywir. Ond fy mhwynt i yw mai dyma gyfleoedd y byd newydd. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod yn agored iddyn nhw," meddai.
"Bydd yn gyfle i ail?ddyfeisio’r hyn ry’n ni’n ei wneud. I fynd â ni ar daith at y gynulleidfa. Yr iaith ar daith. Bydd angen newid ffordd o feddwl. Yn y byd newydd yma, y defnyddiwr sy’n arwain y ffordd, nid y darlledwr. A bydd hyn yn pylu’r ffiniau rhwng brands ac ieithoedd a gwasanaethau.
"Gall hyn deimlo ychydig yn anghyfforddus a chythryblus. Ond dwi’n credu y gallwn ni fod yn browd iawn o’r tirlun darlledu ry’n ni wedi’i greu heb fod yn gaeth iddo."
Cyfyngiadau eraill
"Bydd y byd newydd yma hefyd yn ein herio i fynd i’r afael â rhai o’r cyfyngiadau sydd wedi bod yn rhan o ddarlledu Cymraeg," meddai Rhodri Talfan Davies, gan gyfeirio at y fiwrocratiaeth sy'n rheoli darlledu Cymraeg.
"Mae yna Ddeddf Darlledu, Deddf Cyrff Cyhoeddus, trwydded gwasanaeth, partneriaeth strategol, cytundeb gweithredu – a phwy all anghofio – Siartr hefyd," meddai wedyn.
"Mae’r cytundebau hyn wedi’u hennill ar ôl aml i frwydr wrth gwrs. Ffrwyth blynyddoedd o ymdrech ac ymgyrchu. Nid ar chwarae bach y dylid eu haddasu. Dim ond gofyn y cwestiwn ydw i, ar ba bwynt y mae na beryg eu bod nhw’n ein dal ni'n ôl?
"Oni ddylsem, er enghraifft, foderneiddio Trwydded Gwasanaeth Radio Cymru – y cytundeb gydag Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i’r gwasanaeth wneud a’r hyn na all wneud – er mwyn caniatáu iddo fod yn fwy eofn a mentrus yn y byd ar-?alw? I fynd un cam ymhellach, a fyddai trwydded ar gyfer holl wasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn fwy addas yn y byd newydd – mewn byd heb furiau?
"Yn yr un modd, a ddylai cyfraniad statudol BBC Cymru i S4C barhau i gael ei fesur yn ôl nifer yr oriau rhaglenni yr ŷn ni yn eu cynhyrchu? 520 awr y flwyddyn a bod yn fanwl gywir o dan amodau’r Ddeddf Ddarlledu.
"Pe bai S4C, yn y dyfodol, yn penderfynu eu bod am gael cynnwys digidol neu ryngweithiol gan y BBC -? yn rhad ac am ddim fel rhan o’r bartneriaeth strategol -yna byddai cyfraith a luniwyd rhyw 35 mlynedd ôl, mewn oes analog, yn rhwystro hynny.
"Fy mhwynt i yw, ar draws y tirlun cyfryngau Cymraeg, rhaid i ni herio’n hunain i symleiddio a moderneiddio fel y gallwn symud yn gyflymach, yn fwy rhydd a thrïo mwy o bethau," meddai Rhodri Talfan Davies. "Dylem fod yn gallu addasu a newid ac ail?flaenoriaethu a llwyddo a methu ? heb fod ag un fraich wedi ei chlymu tu ôl i’n cefnau.
"Dyma’n cyfle i fynd â’n hiaith a chreadigrwydd y rheiny sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd. Dyma ddewis mae’n rhaid i ni wneud."