Mwy o Newyddion
Cyfarwyddwr BBC Cymru - Rhaid i ogledd Cymru gael lle canolog yn ein cynnyrch
Bydd Cyfarwyddwr BBC Cymru yn dweud wrth arweinwyr busnes y gogledd heno bod y darlledwr yn benderfynol o adlewyrchu "bywydau a brwdfrydedd" yr ardal yn well yn ei rhaglenni.
Mewn araith i Glwb Busnes Gogledd Cymru i nodi 80 mlynedd o ddarlledu’r BBC yn yr ardal, bydd Rhodri Talfan Davies yn datgelu bod tymor arbennig o raglenni am y gogledd a ddangoswyd ym mis Mehefin - dan yr enw Real North Wales - wedi denu 1.3 miliwn o wylwyr, sef y tymor mwyaf poblogaidd gan BBC Cymru yn y blynyddoedd diwethaf o ran cyrhaeddiad cynulleidfa.
Bydd yn dweud wrth y gynulleidfa yng Ngwesty St George yn Llandudno: “Mae’r nod yr ydym wedi’i osod i ni'n hunain yn syml: adlewyrchu Cymru fel y mae mewn gwirionedd.
"Heb ei farneisio ac yn ei holl amrywiaeth. Nid Cymru ein dychymyg nac o orffennol delfrydol - ond Cymru heddiw.
“Rwy'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl yn y gogledd yn meddwl bod BBC Cymru’n gallu canolbwyntio’n ormodol ar y de.
"Felly gadewch i mi eich sicrhau bod gennym fwy na 100 o newyddiadurwyr a chynhyrchwyr rhaglenni talentog ar draws gogledd Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod bywydau a brwdfrydedd yr ardal yn cael lle canolog yn ein cynnyrch.
“Ac rwy’n gobeithio bod uchelgais a llwyddiant tymor Real North Wales yn cael ei weld fel datganiad o fwriad clir.”
Yn ei araith bydd Talfan Davies hefyd yn rhybuddio bod gormod o’r ddadl gyfredol am ddyfodol y BBC - rhan o adolygiad Llywodraeth y DU o Siarter Frenhinol y gorfforaeth - yn anwybyddu llais y cyhoedd.
“Mae llawer gormod o’r sylw yr wyf yn ei ddarllen mewn papurau newydd yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod cefnogaeth i’r BBC, i ffi'r drwydded ac i fathau eraill o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn dirywio.
“Nid yw hynny’n wir. Mae cefnogaeth y cyhoedd yn gryf ac yn tyfu’n gryfach. Nid yw’r cyhoedd yn credu ein bod yn berffaith - ac maent yn iawn - ond maen nhw’n gwybod ein bod ar eu hochr nhw.
“Yn fwy na hynny. Mae’r dybiaeth y byddai’r ddadl dros ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru a Phrydain yn lleihau’n gynyddol wrth i ddewisiadau gynyddu wedi troi allan i fod yn ffug.”
PERTHNASOL: Ychydig dros wythnos sydd ar ôl i ddweud eich barn fel rhan o ymgynghoriad y BBC