Llythyrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Prosiect ‘ddiangen’ yn peryglu harddwch

Annwyl Olygydd,

Credaf y dylai’r genedl gael gwybod am yr anfadwaith amgylcheddol sy’n digwydd yn Nhal-y-llyn. Gŵyr pawb fod Tal-y-llyn yn eicon o harddwch Cymru. Yma mae Llyn Mwyngil hardd a Chadair Idris yn ei warchod, a’r eglwys a’r ffermydd yn swatio yn ei chysgod. Fe’i gwelsoch ar lawer calendar, yn arddangos tirlun Cymru ar ei orau.

Ond daeth brad i’r cwm ar ffurf y Cyngor Cefn Gwlad. Ie! Y cwango hwnnw sy’n cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol ar faterion amgylcheddol! Bu eu bodolaeth dan amheuaeth ers tro (bygwth eu cyfuno efo’r Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd a.y.b.) felly, i gyfiawnhau eu swyddi maen nhw’n creu “ prosiectau” yma a thraw, rhai cwbl ddiangen yn aml. Ac mae enghreifftiau o ddau o’r rheiny yma yn Nhal-y-llyn heddiw ac yn peryglu ei harddwch a’i lendid dihafal. Dyma nhw:

Mae’r Cyngor Cefn Gwlad am adeiladu caffi yn y coed wrth droed y Gadair, rhywbeth yn sicr nad oes dim o’i angen (daw’r cerddwyr oll a’u bwyd efo nhw). Does mo’i angen, felly, a gwaeth na hynny, bydd caffi yn y fan yma’n llusgo yn ei sgil bob math o lygredd i fangre ddilychwin, lle nad oes ar hyn o bryd ond sŵn y ffrwd a’r gwynt yn y coed. Daw a llygredd sbwriel, gwastraff, dŵr budr, hefyd llygredd sŵn a golau a thrafnidiaeth i amharu ar fywyd gwyllt, ac erydiad tir. Mae dwy goeden gamelia gant oed, hen waddol y stad gynt, yn ffynnu ar y llecyn lle bwriedir codi’r caffi…. Oherwydd ei ddrwg effeithiau dim ond dechrau gofidiau fydd codi’r caffi. Dyma brosiect heb ei werthuso’n iawn, na thafoli ei effeithiau. Prosiect sy’n bodoli i achub wyneb y Cyngor Cefn Gwlad ydy hwn; maen nhw’n berchen ar fwthyn traddodiadol gerllaw lle maen nhw wedi gosod arddangosfa – ond byth yn agor y drws. Maen nhw’n meddwl y bydd y caffi yma’n ateb eu problemau i gyd oherwydd bydd yno rywun wedyn i agor y drws! Dyna i chi reswm dros ddifetha rhan o dirlun pwysicaf Cymru! O, ie, cost y caffi fydd dros £300,000. Ond beth am y dyddiau pan na fydd y caffi ar agor – ac fe fydd yna lawer o’r rheiny oherwydd dydy cerddwyr ddim yn heidio yma yn y glaw. A beth pebai’r caffi’n gorfod cau oherwydd colled ariannol? Beth wedyn? Ydyn nhw ddim wedi clywed am dranc caffi Canolfan Ddehongli Parc Cenedlaethol Penfro yn Nhŷ Ddewi? Methodd hwnnw a thalu ei ffordd ac ynte yn Nhŷ Ddewi, o bobman!

A rŵan am yr ail gyflafan. Mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi anfon eu llifiau cadwyn i mewn i dorri i lawr Goedwig Dolau Cau, sef yr “arboretum” a blannwyd ganrif a mwy yn ôl gan weithwyr stad Hywel Williams Idris. Do, fe gariodd y gweithwyr bryd hynny bridd mewn bwcedi i fyny i ben y clogwyni wrth fon y Gadair i sefydlu gardd amrywiol o goed bythwyrdd o lawer math i arbed erydiad tir ac i harddu’r cwm. Cyflawnwyd y bwriad ar ei ganfed. Maen nhw’n hardd ac maen nhw wedi arbed erydiad. A rŵan mae’r Cyngor Cefn Gwlad am ddadwneud y cyfan gan honni nad ydyn nhw’n “goed cynhenid” a bod rhaid eu difa. Maen nhw wedi dechrau ar y gwaith o dorri’r coed talsyth, iach a hardd, a’u gadael yno i bydru – a gwrandwch ar hyn – maen nhw’n disgwyl i fes a hadau ynn hedfan i mewn i gymryd eu lle! (Gwelais fochyn yn hedfan heibio’r ffenest…!) Cawsant bymtheg canrif ers Oes yr Ia i wneud hynny, a dewis peidio cartrefu ar y graig. Oes gan y Cyngor Cefn Gwlad hudlath neu be?! Ydy eu gweithwyr nhw yn yr oes sydd ohoni yn mynd i gario pridd i fyny mewn bwcedi i blannu coed derw yno, ie, a’u bugeilio wedyn nes iddyn nhw dyfu? Sgersli bilif

Druan o Dal-y-llyn tra bo’r bobol ddi-ben yma wrth y llyw. Aeth synnwyr cyffredin allan trwy’r ffenest. Mae tirlun Cymru’n llawer rhy werthfawr i gael ei drafod ar lefel chwiwiau fel sy’n digwydd yma. Gobeithio y bydd yr erthygl yma’n ennyn trafodaeth genedlaethol ac y bydd gwerthuso go iawn ar y prosiectau yma cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Mae Tal-y-llyn, er ei boblogrwydd, yn cynnig “lle i enaid gael llonydd”. Dyna’i werth ac ni ddylid ystyried cyfnewid hynny am gwdyn te llipa mewn myg, na difa coedwig sy’n hardd am nad yw harddwch yn bwysig i’r Cyngor Cefn Gwlad.

Marian Rees

Tal-y-llyn

Rhannu |