http://www.y-cymro.comY CymroDatganiad yn codi cwestiynau
Annwyl Olygydd,

Ryn ni wedi clywed dros y dyddiau diweddar fod Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn “poeni am y tlodion” wrth annog unigolion i “beidio jyst meddwl am eich hunain” wrth bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’r Archesgob yn ychwanegu “…os yw Duw wedi creu’r byd yma, mae ef â chonsyrn am bob dim sy’n digwydd o fewn y byd yma.”

Ychwanega Dr Morgan ei bryder “…mai’r mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas fydd yn cael eu taro gwaethaf gan doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.”

Da gweld y fath ddatganiad gan yr Archesgob er bod hynny’n arwain at ofyn beth yw ei farn am ddatganiad ei gyd-Anglican, Archesgob Caergaint, Justin Welby, ddwy flynedd yn ôl, fod y Frenhines wedi ei dewis gan Dduw?

Yr ymadrodd a ddefnyddiodd Welby oedd “chosen by God” yn ystod oedfa dathlu 60 mlynedd ers coroni’r Cwîn a hynny’n awgrymu fod ei Dduw wedi ei dewis hi i fwynhau bywyd llawer mwy moethus na’r rhelyw o boblogaeth y byd yma?

A beth yw ei farn am ragflaenydd i Welby, cyn-Archesgob Caergaint George Carey, a fu, ar un adeg, yn berchennog ar dŷ haf ar Benrhyn Gŵyr (ynghyd â chartref sefydlog yn ardal Newbury, Swydd Berkshire) am gyfnod cyn ei werthu er mwyn gallu treulio mwy o amser yn Nhŷ’r Arglwyddi, sefydliad hollol annemocrataidd, yn arbennig o gofio fod `na 26 o Esgobion Anglicanaidd SEISNIG yn meddu ar yr hawl i eistedd yno hefyd?

Yn gywir

Androw Bennett, Llanarthne

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2440/
2015-04-23T00:00:00+1:00Cymanfa ganu
Annwyl Olygydd,

Bydd Cymanfa Ganu Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr yn ymweld â’r Central Methodist Church, Wesley Street, Morley, Leeds LS27 9EE ddydd Sadwrn 9 Mai.

Byddwn yn canu o 2.00 tan 3.30, ac o 4.45 tan 6.30, a bydd te a choffi ar gael rhwng y ddau gyfarfod ac ar y diwedd.

Mae’r rhan fwyaf o’r emynau yn cael eu canu yn Gymraeg, a bydd y cyflwyno, y gweddïo a’r darlleniadau yn y ddwy iaith.

Bydd y casgliadau’n sicrhau parhâd y Gymanfa a sefydlwyd ym 1903 yn Carlton, ger Barnsley, De Swydd Efrog gan lowyr a gweithwyr yn y diwydiant dur yno a ddaeth o Gymru yn wreiddiol, yn enwedig o Sir y Fflint.

Bydd y Parch Philip Barnett, o Wrecsam yn wreiddiol, yn arwain, a Carey Williams o’r Bala fydd yn cyfeilio ar yr organ. Cenir eitemau cerddorol offerynnol yn nwy ran y Gymanfa i roi cyfle i’n lleisiau gael seibiant.

Mae’r M1 a’r M62 yn agos, mae meysydd parcio gerllaw, daw bysiau i ganol y dref a bydd rhai o’r trenau rhwng Manchester Victoria a Leeds yn aros yn Morley.

Am fwy o fanylion ffoniwch 01535 665829 neu e-bostiwch jimwalker@mistral.co.uk

Diolch yn fawr iawn,

Eileen Walker (Ysgrifenyddes, Cymanfa Ganu Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr)

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2441/
2015-04-23T00:00:00+1:00Pam trin Cymru yn wahanol?
Annwyl Olygydd,

Efallai bod eich darllenwyr yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DG wedi cyhoeddi pwerau pellach i Gymru y penwythnos diwethaf, yn dilyn trafodaethau trawsbleidiol y cymerais i ran ynddynt fel arweinydd Plaid Cymru.

Yr oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DG yn cadarnhau na fydd Cymru yn cael cystal bargen ar bwerau na chyllid â’r Alban neu Ogledd Iwerddon, heb sôn am y newidiadau sydd ar droed yn Lloegr.

Ni fydd Cymru yn cael y cyfrifoldeb dros blismona, cyfiawnder, y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhan fwyaf o agweddau ar ein hadnoddau naturiol, treth teithwyr awyr na nifer o feysydd domestig eraill.

Mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau hyn yng Nghymru gan mai’r bobl sy’n byw yma ac a ddaeth i fyw yma ŵyr orau am sut i redeg y wlad.

Yn dilyn refferendwm yr Alban llynedd, dywedwyd dro ar ôl tro fod y DG yn “deulu o genhedloedd”.

Os yw hyn yn wir, does dim cyfiawnhad dros drin Cymru yn wahanol i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Llynedd, fe welsom elite San Steffan yn gorfod cymryd sylw o’r Alban. Rhaid oedd iddynt hefyd barchu gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon a wrthododd weithredu diwygiadau lles heb gonsesiynau cyllidol.

Fy neges i bobl Cymru heddiw yw bod pwysigrwydd Cymru yn yr etholiad hwn ac ar ôl hynny yn eu dwylo hwy.

Os bydd Cymru yn ethol tîm cryf o ASau Plaid Cymru ym mis Mai, yna byddwn mewn sefyllfa i ddod â’n llywodraeth adref a chyflwyno cydraddoldeb i Gymru.

Bwriad Plaid Cymru yw sicrhau Mesur Cymru yn y senedd newydd fydd yn rhoi cydraddoldeb cyfle ac adnoddau i Gymru. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’n cenedl ffynnu fel y gwyddom y gall.

Leanne Wood

Arweinydd Plaid Cymru

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2372/
2015-03-06T00:00:00+1:00Cydymaith cyson mewn tref ar y ffin
Annwyl Olygydd,

Yn ddiweddar mewn caffi yn fy milltir sgwâr roeddwn i’n eistedd gyda chydymaith cyson, sef Y Cymro. Sylwodd y perchennog a holi’r cwestiwn disgwyliadwy: “Pam dych chi yn dewis y papur newydd hwnnw?” Mae’r cwestiwn yn haeddu ymateb ystyriol.

Wel, ar lefel arwynebol, gallwn i wedi cynnig ateb amlwg: dw i’n hoffi darganfod beth sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, a beth sy’n digwydd o’m cwmpas yng Nghymru. Ond byddai hyn yn rhy rhwydd fel ateb. Mae’r Cymro, yn ogystal â bod yr unig bapur cenedlaethol yng Nghymru yn y famiaith, yn symbol grymus ac ysbrydoledig.

Heb flewyn ar fy nhafod, nid wyf yn ystyried Y Cymro fel papur newydd nodweddiadol. Er enghraifft, dych chi ddim yn dod ar draws gormod o newyddion rhyngwladol. Anaml y gwelir hyn. Os ydych am ddarllen papur confensiynol rhaid ichi edrych rhywle arall.

Cyhoeddiad hollol wahanol yw’r Cymro. Yn fy nhyb i, mae’r Cymro yn symboleiddio ac yn amlygu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar gyfer y rheiny sy’n byw eu bywydau trwy gyfrwng y famiaith. Ar gyfer pobl o’r fath, yr iaith frodorol yw eu helfen naturiol, mor sylfaenol ag ocsigen. Felly, mae’r cyfle i ddarllen y newyddion yn eu mamiaith yn arbennig o bwysig. Drwy ddarparu’r cyfle hwn mae’r Cymro’n parchu’r iaith a thrwy’r iaith eu hunaniaeth. Mae’r cysylltiad rhwng iaith a hunaniaeth yn anwahanadwy.

Hefyd mae’r Cymro yn dangos yn glir bod ein hiaith hynafol yn fwy nag alluog i ymdopi, beth bynnag y pwnc. Er enghraifft, ar y naill law yn Y Cymro rydym yn dod o hyd i eitemau am bynciau rhagweladwy – sef gwleidyddiaeth a rygbi, ond ar y llaw arall mae pynciau llenyddol, megis adolygiadau llyfrau a barddoniaeth, yn cael eu cynnwys. Wrth gwrs ar adegau mae’r Gymraeg yn gorfod benthyg geiriau, yn union fel llawer o ieithoedd eraill, yn enwedig Saesneg. Yn olaf, cydnabyddir bod Y Cymro wedi chwarae, a dal i chwarae, rôl hanfodol yn amddiffyniad a chefnogaeth y famiaith. Drwy roi llais i’r iaith mae’r Cymro yn helpu i gadarnhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Fy nghydymaith cyson yw’r Cymro. Dw i’n byw mewn tref ar y ffin ble mae dim ond ychydig o bobl yn medru Cymraeg. Mewn lle o’r fath mae’n eithriadol o bwysig i gadw’r iaith yn olwg y cyhoedd, felly mae darllen Y Cymro yn weledig yn gam bach i’r cyfeiriad iawn. Yn anffodus, gan fod perchennog y caffi yn ddi-Gymraeg, ni fydd y llythyr hwn yn ei helpu i ddeall yr ateb i’w gwestiwn. ‘Na drueni!

Roger Kite, Llanandras, Powys

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2371/
2015-03-06T00:00:00+1:00Diolch i’r gwasanaeth iechyd
Annwyl Olygydd,

Gair gwerthfawrogol o ddiolch ac o ganmoliaeth ddyledus i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ydi pwrpas y llythyr hwn, oherwydd ma’ nhw wedi cael eu colbio yn ddidrugaredd yn ddiweddar o bob cyfeiriad.

‘Rydw i wedi dioddef pedwar o wahanol afiechydon pur ddwys yn ystod yr hanner-can mlynedd diwethaf, a ‘does gen i ddim ond diolch o waelod calon i’r holl feddygon a’r nyrsys fu’n gofalu amdanaf.

‘Taswn i wedi gorfod talu am yr amrywiol driniaethau hynny mi fuaswn ar y “Garreg Domos” ers blynyddoedd!

Wrth gwrs fod ‘na ffaeleddau yn y system, ‘does neb yn gwadu hynny, ond er yr holl ddiffygion ‘ryda ni’n ffodus i gael un o’r gwasanaethau iechyd mwyaf llwyddiannus yn y byd.

Felly, hir oes i’n Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ni yng Nghymru, a naw wfft i Mr Cameron, sydd, fel y gŵyr pawb call a’i ddwy lygad boliticaidd bryderus ar fis Mai!

Wedi’r cyfan mae ganddo broblemau cyffelyb yr un mor ddyrys tros Glawdd Offa – y ffin y mae o mor hoff o’n hatgoffa o’i bodolaeth!

Yn gywir,

Vernon Jones

Llanfairpwll, Ynys Môn

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2346/
2015-02-13T00:00:00+1:00Gosod baner o urddas
Annwyl Olygydd,

Doedd rhen fflag ddim byd i’w wneud efo ni; rydym yn gw’bod bod cenhedloedd eraill y byd yn cydnabod Fiji fel cenedl a gwlad – geiriau Voreqe Bainimarama, tra’n cyhoeddi fos Siac yr Undeb bellach yn Fiji’n ddi-ddim, i’w di-sodli, a gosod yn ei le faner o urddas.

Cwestiwn i Carwyn Jones, ac arweinyddion y pleidiau gwleidyddol ein tama’d Senedd honedig yng Nghaerdydd – mi rydach yn cefnogi Cymru pan fyddir yn chwarae rygbi’n erbyn Fiji, ond a fyddwch chwi Hydref 11 eleni (nodwch y dyddiad) yn ymweld â Fiji er mwyn gweld rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig wedi ei bylchu ymhellach, ac os ydych chwi am fynd yno, a fyddwch yn arddel y Ddraig Goch ar eich cotiau, hetiau, neu’n well byth yn cyflwyno gwir faner cenedlaethol Cymru’n anrheg i’r Fijiwyr? Atebwch da chwi.

Sieffre Young,

Machynlleth

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2345/
2015-02-13T00:00:00+1:00Drylliad oes o dybio fy hunan yn Gymro o iawn ryw!
Annwyl Olygydd,

Syfdran y daeth canlyniad y DNA Y (llinach gwryw), yn datgelu rhyw gyfrinach gudd mai Germanic S1B-S21 ydwyf, fel y rhan helaeth ohonom ym Mhrydain.

Drylliad oes o dybio fy hunan yn Gymro o iawn ryw ac o dras y Brython y gorffennol pell.

Ai breuddwyd gwrach felly yw imi ddal i uniaethu fy hunan ar y ddelwedd hon?

Toes bosib fod canlyniad y prawf DNA yn gallu hawlio yr holl wybodaeth am lwybrau bywyd, FritzWilhelm, (neu beth bynnag oedd ei enw Sacsonaidd) pan ddaeth i ymosod, o lannau’r Rhein, ar y Brythoniaid yn 401OC.

Beth ddigwyddodd wedyn, tybed, i dras gwrywaidd FritzWilhelm ar ôl hynny?

Mae fy lleoliad i yn 2015 yn profi iddynt ledaenu dros y canrifoedd ar draws Ynys y Cedyrn cyn ymsefydlu, o leiaf am y canrifoedd olaf, ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd.

Os yw’r “pethau yma” yn rhedeg yn y teulu, addefaf wendid a synnwn i fawr bod merched tlysaf y Brythoniaid hyd at ferched deiniadol Pen Llŷn wedi eu gwirioni ac wedi eu dylanwadu, o leiaf ar y trywydd iawn!

A dyma fi, “yma o hyd”! Diolch i ferched glan, Walia!

Aufrichtig,

Tomos ap Gwilym. Ynteu Thomas Fritz Wilheim?

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2313/
2015-02-06T00:00:00+1:00Darpariaeth wedi dirywio’n enbyd
Annwyl Olygydd,

Difyr oedd gweld llythyr y Comisiynydd Iaith yn rhifyn diwethaf y Cymro’n cyhoeddi ei bwriad i edrych ar wasanaeth Cymraeg y banciau.

Byddwn yn annog pawb i anfon tystiolaeth ati i’w chynorthwyo, ond yr un pryd yn eu rhybuddio i beidio â disgwyl gwelliant o’i herwydd.

Ers i Ddeddf 2011 ddod i rym mae’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer gwasanaethau hanfodol oddi wrth gwmnïau masnachol wedi dirywio’n enbyd.

Mae gwefan Cymraeg Parcelforce wedi diflannu ers talwm, a thu hwnt i dudalen ‘groeso’ y Swyddfa Post mae’n rhaid chwilio am wybodaeth yn y Saesneg.

Mae banc/cwmni adeiladu’r Nationwide wedi gwneud i ffwrdd â’r dewis Cymraeg oedd ar eu peiriannau twll yn y wal, a lle aeth eu staff Cymraeg?

Cymharwch hefyd fil BT heddiw â bil BT o rai blynyddoedd yn ôl, neu’r ffaith fod yn rhaid bellach siarad â rhywun Saesneg er mwyn delio ag unrhyw fater technegol neu gytundebol.

A’r gohebiaeth? Mae honno naill ai fisoedd yn hwyr, neu’n cynnwys dim ond llythyr cyflwyno uniaith Saesneg, neu’n cyfeirio’r cwsmer at dudalennau gwe Saesneg… ac yn y blaen.

A Scottish Power? Mae eu ‘rhyngwyneb’ Gymraeg nhw – eu un aelod staff, rhan amser – wedi diflannu, dydi e-byst Cymraeg ddim yn cael eu hateb a galwadau ffôn i’r llinell Gymraeg yn cael eu hateb yn Saesneg.

Ac wrth gwrs mae pob gohebiaeth gan y cwmni yn uniaith Saesneg. Dyma pa mor effeithiol mae’r Comisiynydd wedi bod hyd yn hyn.

I fod yn deg â hi, mae ei dwylo wedi eu clymu gan y Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod ‘ateb rhannol’ gan gwmni’n ddigon i ateb cwyn gan gwsmer, ac unwaith y mae cwyn wedi ‘ei ateb’ fe gaiff yr hyn a gwynwyd amdano barhau neu ddirywio’n ôl i’r hyn oedd o cyn y gwyn.

Wnaiff y Comisiynydd ddim byd pellach. Dyma fy mhrofiad i, beth bynnag.

Felly, beth i’w wneud? Wrth gwrs parhau i gwyno ac i bwyso ar ein gwleidyddion, pob cyfle gawn ni, i gryfhau neu’n well byth i ddiwygio’r Ddeddf.

Ond hefyd disgwyl i’n Comisiynydd weithredu ysbryd, yn hytrach na dim ond llythyren, y ddeddf honno.

Fe roddwyd yr argraff, wrth gyflwyno Comisiynydd Iaith, y byddai hyn yn sicrhau, yn gwarchod ac yn datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg.

Mae’r hyn a gawsom ni fel piso ar rug pan fo’r mynydd ar dân.

Y dymuniadau gorau,

Dafydd Chilton

Ysbyty Ifan

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2312/
2015-02-06T00:00:00+1:00Toriadau addysg niweidiol
* Llythyr agored at Y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd

Annwyl Dyfed Edwards,

Ar nos Fercher, Ionawr 28ain 2015, cynhaliwyd cyfarfod hollol ddigynsail o Gadeiryddion Cyrff Llywodraethu a Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Gwynedd, yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, i drafod y toriadau arfaethedig i gyllidebau ysgolion Gwynedd.

Deallwn fod y Cyngor yn bwriadu torri £4.3m o gyllidebau’r ysgolion dros gyfnod o 3 mlynedd.

Rydym yn deall y cyd-destun ariannol echrydus y mae’r cyngor yn gorfod ei wynebu ac yn cyd-ymdeimlo’n fawr efo’r dasg sy’n eich wynebu.

Serch hynny, gan mai prif gyfrifoldeb y cadeiryddion yw sicrhau addysg safonol i blant Gwynedd, mae’n ddyletswydd arnom i dynnu eich sylw at yr effaith gwbl negyddol a phellgyrhaeddol y byddai’r toriadau yn cael ar ansawdd addysg a phrofiadau’r disgyblion yn ein hysgolion, yn ogystal ag ar safonau eu cyflawniad.

Rydym yn cytuno yn llwyr â chynnwys Cynllun Strategol y cyngor a’r canlyniadau yr ydych yn gweithio tuag atynt ym maes plant a phobol ifanc.

Yn anffodus, nid ydym yn credu fod modd cyrraedd y nod ar draws nifer o fesuryddion perfformiad, rhai CA4 yn benodol, os bydd y toriadau hyn i gyllidebau ysgolion yn cael eu gwireddu.

Sylwn fod penaethiaid yr ysgolion cynradd ac uwchradd, yn y Fforwm Cyllid yn ddiweddar, wedi cytuno mai £1.9m yw’r uchafswm y mae modd ei dorri, gan y byddai unrhyw doriad y tu hwnt i hynny yn cael effaith sylweddol iawn ar safonau.

Bydd y toriad o £1.9m ynddo’i hun yn niweidiol iawn i ansawdd addysg ein plant, ac mae Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu Ysgolion Uwchradd Gwynedd yn cytuno gyda’r penaethiaid, ac yn unfrydol yn eu pryder dwys am effaith unrhyw doriadau uwchben yr £1.9m.

Credwn y bydd hyn yn cael effaith barhaol ar addysg a phrofiadau’r disgyblion, yn arbennig felly’r profiadau ‘cyfoethogol’ hynny sydd mor bwysig i’w datblygiad.

Bydd yr effaith wrth golli staff, yn enwedig y rhai arbenigol hynny sy’n helpu’r disgyblion bregus a chyfrannu at wella presenoldeb, yn sylweddol, a bydd y canlyniadau yn gwbl groes i flaenoriaethau’r Cyngor a’r Adran Addysg, blaenoriaethau Estyn a pholisïau Addysg Llywodraeth Cymru.

Yn sgil hyn, hoffai dirprwyaeth o’r cadeiryddion gyfarfod aelodau allweddol o Gabinet y Cyngor ar fyrder i drafod y toriadau arfaethedig er mwyn diogelu ansawdd addysg a safonau cyflawniad pobl ifanc Gwynedd.

Dafydd M Roberts,

Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu a Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Gwynedd

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/2310/
2015-02-06T00:00:00+1:00Mwy o loc-yps nag o loc-ins
Annwyl Olygydd,

A minnau newydd ddychwelyd o wyliau o ddiogi ac o seshus ar un o Ynysoedd Groeg dyma ganfod mewn rhifyn o’r Cymro bythefnos yn ôl lythyr o gerydd oddi wrth yr hen gyfaill Wil Roberts o Bwllheli. Byrdwn ei epistol oedd fy nghyhuddo o ragrith wedi i mi feirniadu pobl ifanc meddw ac anystywallt tra’n anghofio fy sesiynau chwedlonol fy hun yn yr Hydd Gwyn nôl yn nyddiau euraid y saithdegau cynnar.

Roedd gwahaniaeth mawr rhwng fy seshus chwedlonol i a’m ffrindiau â rhai pobl ifanc heddiw. Unig ddioddefwr fy seshus i oedd fi fy hun. Doedd loc-ins chwedlonol yr Hydd Gwyn ddim yn tarfu ar na theulu na ffrindiau, cymdogion na hyd yn oed ddieithriaid. Felly mae pethe o hyd o’m rhan i. Rwy’n dal i fwynhau ambell sesh, ond wedi cymedroli llawer. Ac onid oes gan feidrolyn yr hawl i gallio wrth iddo fynd yn hŷn? Fe ddaw i ran Wil ei hun rhywbryd, heneiddio a challio.

Ar ddiwedd ei lythyr mae Wil yn dweud hyn amdanaf: ‘Mae’n rhaid ei fod wedi anghofio iddo dreulio cyfran helaeth o oriau mân boreau ei ieuenctid yn igam-ogamu ar strydoedd Aberystwyth wrth gerdded adref o loc-ins chwedlonol tafarn yr Hydd Gwyn.’

Mae yna hen wireb am y chwedegau. Os oes yna unrhyw un sy’n medru cofio’r cyfnod, yna doedd e ddim yno. Mae’n amlwg fod yr un peth yn wir am y saithdegau cynnar. Nawr, hanfod unrhyw un o loc-ins chwedlonol yr Hydd Gwyn oedd na fyddai neb yn cofio am y digwyddiad hyd yn oed y diwrnod wedyn. Mae Wil yn amlwg yn eu cofio mor glir â jin gryn ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Hwyrach fod hynny’n dweud mwy amdano ef nag amdanaf fi.

Gwahoddaf ef i ddod lawr i Aber a threulio ambell i nos Wener neu nos Sadwrn hwyr – ac yn arbennig oriau mân fore Sul - yn crwydro top y dref. Ond cofied ddod â’i bolisi yswiriant bywyd (cyfredol) gydag ef. Mae yna fwy o loc-yps nag o loc-ins yn Aber bellach.

Iechyd Da,

Lyn Ebenezer.

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/593/
2011-09-16T00:00:00+1:00Cefnogi menter Radio Beca
Annwyl Olygydd,

Mae holl orsafoedd radio lleol de-orllewin Cymru bellach yn nwylo “Town and Country Broadcasting” – cwmni sy’n darlledu cyn lleied o Gymraeg ag sy’n bosib o dan amodau trwyddedi OFCOM. Ar ôl prynu Radio Ceredigion yn ddiweddar, cafodd y cwmni ei rwystro gan OFCOM rhag torri’r oriau darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg o 50% i 10%. D’oes fawr ddim o Gymraeg ar orsafoedd radio Sir Benfro a Sir Gâr ychwaith, dau gwmni arall sy’n eiddo i’r cwmni hwn.

Pan fydd trwydded bresennol Radio Ceredigion yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ofnir y bydd OFCOM yn barod i ganiatáu trwydded newydd heb osod unrhyw amod ynglŷn â darlledu canran o oriau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sgil dileu’r rhaglenni boreol ar gyfer y gorllewin gan Radio Cymru, byddai hynny yn gadael cymunedau a siaradwyr Cymraeg ar draws y gorllewin heb unrhyw wasanaeth radio lleol yn eu hiaith eu hunain. Mae’n sefyllfa ddigalon sy’n erydu ymhellach safle’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Mae Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, sydd â 3,000 o aelodau, yn cefnogi menter Radio Beca, sy’n gofyn i OFCOM am drwydded i sefydlu gorsaf radio gymunedol newydd i wasanaethu gorllewin Cymru, yn bennaf trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn cefnogi galwad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar i Lywodraeth Cymru rwystro OFCOM rhag cyhoeddi trwyddedau heb roi amodau ynglŷn â’r Gymraeg.

Parchg Ken Williams

Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/592/
2011-09-16T00:00:00+1:00Tydi cymunedau Cymraeg ddim yn ddibynnol ar ysgolion bach
Annwyl Olygydd,

Nid wyf erioed wedi ysgrifennu at bapur newydd o’r blaen ond y mae’r amser wedi dod i roi tipyn o ffeithiau moel mewn ymateb i fegaffon Llais Gwynedd – Alwyn Gruffydd. Fe ddywedodd rhywun unwaith rhywbeth fel hyn “dwedwch gelwyddau ddigon aml, ac yn y diwedd mi gredith pobl nhw” ac felly rwyf yn teimlo am fytheiriadau cyson a blinedig Alwyn Gruffydd ar faterion ysgolion Gwynedd.

Dyma’r ffeithiau gwirioneddol bwysig:

1. Tydi cymunedau Cymraeg ddim yn ddibynnol ar ysgolion bach – y mae llawer iawn o ffactorau pwysicach er enghraifft economi a gwaith, sefydliadau gwirfoddol a diwylliannol, capeli ac eglwysi ac yn y blaen. Faint o gynghorwyr a chefnogwyr Llais Gwynedd sydd yn ymwneud â’r sefydliadau hyn yn eu cymunedau tybed? Ychydig iawn yn fy mhrofiad i, ac wrth gwrs dim ond y cynghorwyr a’r cefnogwyr hynny sydd yn siarad Cymraeg fedar ymuno mewn gweithgareddau o’r math a’r gwir yw mai mewnfudwyr di Gymraeg yw prif ffynhonnell cefnogaeth llais.

2 Tydi ysgolion bach ddim yn lles o gwbl i addysg gynhwysfawr a datblygiad personol plant. Ffaith – y mae fy mhlant i a’m hwyrion a phlant eraill yn y bröydd gwledig hyn wedi teithio llawer iawn ymhellach i ysgolion na’r tair milltir sydd rhwng y Parc bondigrybwyll a Llanuwchllyn. Ffaith – y mae plant o ysgolion micro, weithiau yn gorfod symud i fyny i ysgol uwchradd ar eu pennau eu hunain, mater sydd yn creu loes fawr iddynt. Fe wyddwn hyn o brofiad – faint o blant Cynghorwyr Llais sydd wedi bod mewn ysgol fach? – dim llawer yn ôl fy ymchwil i. Ffaith – mewn ysgol fach yn aml does dim digon o blant i greu côr na thîm pêl-droed ac felly y mae datblygiad y plentyn yn dioddef, y mae ysgolion mwy yn medru darparu llawer iawn mwy o weithgareddau i ymestyn y plant.

Diolch wyf am ymroddiad Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru i gael gweledigaeth eang ar anghenion cymunedau gwledig a Chymraeg y Sir trwy gefnogi datblygiad economi a chymunedol mewn dyddiau anodd iawn – dyma’r unig ffordd i ddiogelu ein cymunedau a’n hiaith.

J S Lewis

Trawsfynydd

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/367/
2011-06-03T00:00:00+1:00Cynghorwyr hirben i’w canmol
Annwyl Olygydd,

Mae cau ceg yn anodd yn y tŷ ‘cw yn amal ar brydiau ond “Clywch, Clwych!” glywid ar ôl darllen llythyr Chris Schoen yn Y Cymro am Ysgol y P…! Nid oes amheuaeth mai ein Cynghorwyr hirben Gwynedd sy’n iawn ac fe ddylid eu canmol am eu penderfyniad dewr.

Os mai trwy gefnogi Arsenal a chlodfori gôl Aron Ramsey oedd tynged Osama bin Laden yn nychymyg Arthur Thomas – O Gysgod y Foel, yn y tŷ acw, cynddeiriogi a cholli ei limpyn yn lan wnath o yn bendant ar ôl laru gwylio tictacs tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru! Allan i’r glaw aeth y tŷ ‘cw hefyd.

Ond dim pnawn heddiw. Yr oedd yn werth bod i mewn yn gwrando ar Abertawe yn curo Reading o 4 gôl i 2.

Tomos ap Gwilym

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/361/
2011-06-03T00:00:00+1:00Anghofio ei gwreiddiau
Annwyl Olygydd,

Wrth deithio ddydd Sul, 22 Mai, heibio i Bontnewydd, a thŷ’r Lordyn, beth a welwn ar y lôn ac yn y gwrych ond haid o weithwyr ac er waethaf adar y gwrychoedd a’u hetifeddion, ran wyau a chywion, yn cymhennu’n drydanol y gwrych!

Hyn i gyd, er waethaf negeseuon yn y gorffennol i beidio ag ymyrryd â safleoedd nythu adar yn nhymor y gwanwyn – ond hwyrach mai’r gaeaf ydyw hi ran aelodau Plaid Cymru/The Party of Wales ar Gyngor Sir Gwynedd.

Rhaid oedd sgwennu. Onid dyna ddrwg Plaid Cymru erbyn hyn – ysgubo popeth, hyd yn oed ysgolion bychain, o’r neilltu, byw ar hunan bwysigrwydd, a thrahauster. Peidio gwrando, a siarad efo pobol.

Y mae Plaid Cymru wedi anghofio ei gwreiddiau, heb sôn am wrychoedd ac adar mân y llwyni.

Ni welais Lord Wigley, tu allan i’w dŷ yn protestio. Hwyrach nad ydoedd yr adar yn y llwyni o bwys iddo fwy na’i etholwyr bellach. Nod-nod. Winc-winc.

Yr eiddoch fel y gwelaf petha’

Idris Idloes Peris Williams

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/366/
2011-06-03T00:00:00+1:00Diffyg clerigwyr
Annwyl Olygydd,

Y mae’r Eglwys yng Nghymru yn pryderu am brinder ei chlerigwyr sy’n Gymry Cymraeg ac yn medru gweinidogaethu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd Gweithgor o dan gadeiryddiaeth Cynog Dafis i ystyried y mater ac i wneud argymhellion i Fainc yr Esgobion.

Y mae’r Gweithgor ar hyn o bryd yn ymchwilio i gyflwr yr iaith Gymraeg yn y plwyfi, ac y mae’n gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig oddi wrth blwyfolion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Y mae croeso i chwi anfon tystiolaeth o’r fath i’r cyfeiriad isod cyn 30 Mehefin.

Y Gweithgor Gweinidogaeth Gymraeg,

Yr Eglwys yng Nghymru,

39 Heol y Gadeirlan,

Caerdydd

CF11 9XF gwynnapgwilym@eglwysyngnghymru.org.uk

Gwynn ap Gwilym,

Ysgrifennydd

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/368/
2011-06-03T00:00:00+1:00Hanes Bob Parry
Annwyl Olygydd,

Wrth gerdded heibio hen adeilad y cwmni arwerthwyr enwog gynt sef Bob Parry, ar faes Caernarfon y dydd o’r blaen, gofynnais i mi fy hun pam nad oedd rhyw awdur bellach wedi croniclo mewn llyfr, hanes y cwmni hynod hwn tros nifer fawr o flynyddoedd.

O bosib fod dogfennau ar gael i gynorthwyo cyflwyno hanes cwmni cafodd gymaint o ddylanwad ar y byd amaethyddol tros gyfnod hir.

Rwy’n siŵr y byddai yn hanes hynod o ddifyr a dadlennol, ac yn destun edmygedd cannoedd o amaethwyr ac eraill yng ngogledd Cymru.

Oes yna awdur a chwmni argraffu â diddordeb ‘sgwn i, cyn oedi mwyach?

Rol Williams

Waunfawr,

Gwynedd.

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/365/
2011-06-03T00:00:00+1:00Ymateb i’r her di-niwclear

Annwyl Olygydd,

Wedi imi ymosod ar y bwriad o godi gorsaf niwclear newydd yn y Wylfa (Pum Rheswm Pam Na Ddylid Codi Atomfa Newydd; Y Cymro, Mai 13eg), mai ond yn iawn imi gynnig atebion i oblygiadau hynny.

1. Cyflogaeth

? Bydd y gwaith o ddatgomisiynnu’r Wylfa, sydd am gau yn 2012, yn sicrhau cyflogaeth i 607 o weithwyr am beth bynnag y 25 mlynedd nesaf.

? Arbed ynni – y darogan yw y gallem greu tua 100 o swyddi parhaol ar yr ynys o ddilyn esiampl yr Almaen.

? Prosiect Seagen, sydd yn defnyddio cerrynt y môr oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae hwn yn cael ei ddatblygu yn rhannol gan RWE a bydd angen ei wasanaethu.

? Cynllun Centrica i ddatblygu ynni môr drwy godi cannoedd o felinau gwynt anferthol 15km oddi ar Ynys Môn ar leoliad 2200km sgwâr

? Cynlluniau ffotofoltaic a solar sydd yn cynnig cymaint o botensial.

? Cynlluniau cymunedol i greu ynni wrth felinau gwynt.

? Cynllun biomas posib ar safle Alwminiwm Môn

Rhagwelwn y bydd modd sicrhau gwaith i tua 1,500 o bobl wrth y cynlluniau uchod.

Yn ogystal â defnyddio’r technegau amgen, mae cynhyrchu’r offer ar eu cyfer yn cynnig cyfleoedd ychwanegol mewn llefydd fel Porthladd Caergybi a hen safle Alwminiwm Môn.

Yn yr Almaen heddiw, ceir tua 340,000 o swyddi yn y diwydiant ynni amgen tra bod tua 35,000 yng ngwledydd Prydain!

2. Ynni

? Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod modd, drwy ddulliau amgen, i Gymru sicrhau o leia’ dwywaith yr ynni a defnyddir yn y wlad ar hyn o bryd ac nad oes angen ynni niwclear.

? Ymchwil a gyhoeddwyd yn ‘Energy Policy’ yn dangos bod modd sicrhau 100% o anghenion ynni’r byd (nid trydan yn unig) drwy ddulliau amgen

? Cyhoeddwyd adroddiad gan yr Offshore Valuation Group, sydd yn dangos mai drwy ganolbwyntio ar bump o dechnolegau all-draeth – gwynt (gyda sylfeini sefydlog neu arnofiol), tonnau, llanw a ffrwd y llanw – mae’n bosib cynhyrchu 2,131 TWh/blwyddyn, bron yn chwe gwaith yr hyn a defnyddir yn y DU ar hyn o bryd

Rhaid gosod yr agenda heriol hwn yng nghyd-destun na fydd yr Almaen (4ydd economi fwya’r byd) yn codi rhagor o orsafoedd niwclear newydd a’r wythnos diwethaf mae Prif Weinidog Siapan (3ydd economi) hefyd wedi gofyn am ganslo’r 14 atomfa newydd oedd yn yr arfaeth yn y wlad honno a hynny er mwyn canolbwyntio ar arbedion ynni a chynhyrchu ynni amgen.

Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud gan E-ON nac RWE i fuddsoddi yn yr Wylfa ac na fydd unrhyw benderfyniad terfynol tan 2013 ac mae geiriau Prif Weithredwr E-ON yn eu Cyfarfod Blynyddol 5ed Mai yn berthnasol “nid oes unrhyw fwriadau concrit i godi atomfeydd newydd”.

Dylai Cymru nawr ymateb i’r her di-niwclear a manteisio ar yr adnoddau naturiol cynhenid gwych sydd gennym ni i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy.

Dr Carl Iwan Clowes FFPH – Pwyllgor Gweithredol PAWB

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/314/
2011-05-20T00:00:00+1:00Diolch am y gefnogaeth
Annwyl Olygydd,

Trwy golofnau’r Cymro, carwn ddiolch i bobl gogledd Cymru am eu cefnogaeth yn etholiad cyffredinol Cymru ar Fai 5, pryd y derbyniodd Plaid Cymru ymhell dros 40,000 o bleidleisiau yn y bleidlais ranbarthol.

Aeth Plaid Cymru ati i hyrwyddo ein polisïau ar draws Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol, ac y mae diolch yn ddyledus hefyd i’r Cymro am ymdriniaeth y papur o’r polisïau hyn.

Fel eich Aelod Cynulliad newydd, fe wnaf fy ngorau i gynrychioli buddiannau gogledd Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â buddiannau etholwyr unigol, waeth beth fo’u teyrngarwch gwleidyddol. Fe wyddom yn iawn beth yw’r anawsterau sy’n wynebu ein gwlad, ac mae’n hanfodol ein bod oll yn gweithio gyda’n gilydd dros Gymru well.

Dros yr wythnosau nesaf, byddaf yn cyhoeddi manylion cyswllt parhaol, ond yn y cyfamser, bydd modd i chi gysylltu â mi trwy swyddfa Plaid Cymru neu trwy e-bostio llyr.gruffydd@cymru.gov.uk

Llyr Huws Gruffydd AC

Plaid Cymru, Rhanbarth Gogledd Cymru

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/295/
2011-05-13T00:00:00+1:00Sylw am golli cwpl o brydau bwyd!
Annwyl Olygydd,

Rhaid dweud i mi ryfeddu wrth weld y stori ar eich tudalen flaen wythnos diwethaf am ympryd arbennig ymgyrchydd iaith. Neu efallai na ddylwn i synnu, wedi’r cyfan, bu hon yn hen dacteg gan Ffred Ffransis, ond o leia’ yn y gorffennol roedd yn ymprydio dros achosion gwerth gwneud safiad drostynt.

Erbyn hyn mae ei safiad wedi troi’n jôc, yr un fath ag ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn gyffredinol. Gyda’r Gymraeg yn wynebu ei thranc mewn degau o ardaloedd ledled Cymru, onid oes brwydrau pwysicach gan Mr Ffransis i ofidio yn eu cylch na’r ffaith fod llond dwrn o blant Y Parc yn gorfod mynychu ysgol yn y môr hwnnw o Seisnigrwydd yn Llanuwchllyn? (A hynny i gael gwell addysg ac mewn ysgol fydd yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â phlant tu hwnt i bentref mewnblyg Y Parc.)

Rhyfeddol hefyd oedd gweld Mr Ffransis yn trafod ei ympryd fel petasai yn ryw fath o hobi meddygol, drwy nodi fod modd “mynd am tua 70 awr heb ddŵr heb wneud niwed” – onid gwneud niwed ydyw holl bwynt ymprydio go iawn? Petai wir yn poeni am ysgol Y Parc oni ddylai fynd ymlaen i ymprydio am 90 awr efallai? Neu beth am gant o oriau?

Alla i ddim dychmygu ymprydwyr go iawn yn ymgyrchu gydag oriawr o’u blaenau, yn disgwyl i bethau newid cyn i’r cloc daro deuddeg. Gobeithio wir na fydd Y Cymro yn rhoi’r fath sylw i Mr Ffransis y tro nesa bydd yn mynd ati i golli cwpwl o brydau bwyd, a gobeithio y daw Cymdeithas yr Iaith i ffeindio ymgyrchoedd gwerth eu hymladd cyn i bawb roi lan ar eu protestio plentynnaidd.

Edwin Jones

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/296/
2011-05-13T00:00:00+1:00Cychwyn canu a chanmol
Annwyl Olygydd,

A sylwasoch nad oes fawr ddim yn dechrau nac yn dda mwyach? Cychwyn a gwych yw bron popeth.

Mater o amser, efallai, hyd nes y cawn Cychwyn Canu, Cychwyn Canmol a derbyn Newyddion gwych o lawenydd mawr!

Erfyl Williams, Porthmadog

http://www.y-cymro.com/llythyrau/i/297/
2011-05-13T00:00:00+1:00