Llythyrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Da iawn John

Annwyl Olygydd,

Rydw i’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Rydw i’n credu ei bod yn bwysig i ddysgwyr glywed Cymraeg da ar y teledu a’r radio hefyd. Rydw i’n credu bod siaradwr iaith gyntaf Cymraeg yn dangos y sgiliau hyn. Mae’n gret!

Ond rydw i’n credu ei bod yn bwysig iawn bod cyfle i siarad yn gyhoeddus hefyd. Roedd enghraifft mewn llythyr gan Meleri Morris, Pontardawe. Ysgrifennodd hi am John Hartson: “Nid yw ei siarad yn berffaith ond er gwaetha’r ambell fisteg gramadegol, credaf ei fod yn gwneud mwy dros yr iaith na llond bws o ddarlithwyr holl acadymis elitaidd Cymraeg.” Mae hyn yn gret, achos bod pethau fel hyn yn helpu cadw’r iaith yn fyw.

Mrs. A. Kershaw,

Clydach

Rhannu |