Llythyrau
Dim lle i’r Gêmau Olympaidd ar y Maes
Annwyl Olygydd,
Diddorol oedd darllen eich erthygl am yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos diwethaf, a barn Prif Weithredwr yr eisteddfod y gallem wylio’r Gêmau Olympaidd ar faes yr eisteddfod genedlaethol 2012.
Credaf fod yr awgrym hwn yn sarhad ar yr holl gystadleuwyr a’r holl eisteddfodwyr sy’n mynychu’r ŵyl i gael diwylliant Cymraeg, i fwynhau cerdd dant ac i wylio’r prif seremonïau.
Beth nesa? A gawn ni sgrin deledu yn fyw o Lundain ar lwyfan y Pafiliwn? A tybed a fydd y sylwebaeth yn Gymraeg? Go brin.. Beth ddigwyddodd i’r rheol Gymraeg tybed?
Mae’r cynnig hwn yn rhyfygus. Os yw pobl am weld y Gêmau Olympaidd bondigrybwyll gallant wneud hynny yn eu cartrefi, neu mewn tŷ tafarn.
Ond mewn difri calon, os gwelwch yn dda, nid ar faes ein Heisteddfod Genedlaethol.
Nid maes chwarae ydyw’r Maes, ond lle i ymbleseru ac ymddiwyllio yn iaith y nefoedd. Hyderaf y cawn ateb ac esboniad clir gan y Prif Weithredwr fel y gallwn wneud y penderfyniad a fyddwn yn mynychu’r eisteddfod ai peidio yn 2012.
Dafydd Edwards