Llythyrau
Sefyllfa S4C yn fwy argyfyngus
Annwyl Olygydd
Ddeugain mlynedd yn ol i’r Gwanwyn hwn, bu’r tri ohonom yn rhan o ymgyrch weithredol gan Gymdeithas yr Iaith i sefydlu sianel deledu Gymraeg. Buom yn dringo mast teledu, ac yn torri i mewn i stiwdio Granada ym Manceinion. O ganlyniad, dedfrydwyd y tri ohonom i flwyddyn o garchar yn Hydref 1971.
Enillwyd y frwydr ac, er i Lywodraeth Geidwadol newydd ym 1979 geisio cefnu ar yr addewid, fe’u gorfodwyd nhwythau hefyd i gadarnhau sefydlu’r sianel ym 1980. Daeth y sianel yn rhan annatod o brofiad bod yn Gymro Cymraeg ac yn ffocws i weithgarwch mawr.
Ddeugain mlynedd ar ôl ein gweithgarwch gwreiddiol, a bron 30 mlynedd ers sefydlu S4C, mae llywodraeth Geidwadol newydd yn Llundain unwaith yn rhagor yn ceisio dwyn y sianel oddi wrth bobl Cymru – yn groes unwaith eto i addewid cyn yr etholiad “y byddai’r sianel yn ddiogel” yn eu dwylo nhw. Fe benderfynon nhw gychwyn proses o ddinistrio S4C fel sianel annibynnol a’i gwneud yn isadran o’r BBC. Gwnaethon nhw hyn heb drafod y mater gyda S4C na gyda’r BBC na gyda Llywodraeth Cymru na gyda Bwrdd yr Iaith, nac hyd yn oed gyda’u haelodau eu hunain yng Nghymru.
Mae’r BBC hefyd wedi ein bradychu trwy gydweithio yn y cynllun, gan geisio ffafr gan lywodraeth a allai eu tanseilio nhwythau, a chan chwilio am fantais i’r BBC o chwalu S4C. Mae Awdurdod S4C hefyd mewn trafodaethau bellach gyda’r BBC. Os deuant i gytundeb o fewn yr wythnosau nesaf, bydd S4C wedi darfod amdani fel sianel annibynnol o 2015 ymlaen a byddwn yn ôl yn yr hen ddyddiau tywyll pryd yr oedd yn rhaid i raglenni Cymraeg gystadlu am adnoddau o fewn y BBC (a HTV ar y pryd) gyda phob math o alwadau eraill, a thyndra rhwng Cymry Cymraeg a di-Gymraeg.
Galwodd arweinydd pob plaid yng Nghymru ar i’r Llywodraeth roi heibio’r cynllun dirmygus hwn, ac yn hytrach i gynnal Adolygiad Annibynnol trwyadl o ddyfodol S4C. Yn yr un modd trahaus, mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi gwrthod hefyd y cais hwn. Ac fe dawelodd yr arweinwyr pleidiol yng Nghymru!
Galwad y tri ohonom yw -
1) Ar i Lywodraeth Cynulliad Cymru – ac arweinydd pob plaid yng Nghymru – i wneud safiad cryf drosom. Mater cyfansoddiadol ydyw fod Llywodraeth San Steffan yn gwrthod yn ddirmygus lais unedig pobl Cymru.
2) Ar i’r BBC ac S4C atal trafodaethau am gynllwyn y llywodraeth i roi S4C tan reolaeth gyllidol y BBC.
3) Ar i bobl Cymru ddwyn pwysau ar y 2 gorff darlledu hyn, ac ar eu haelodau Cynulliad i wneud safiad. Ni ddylem fel trwydded-dalwyr gynnal trefn sy’n tanseilio’n hunig sianel Gymraeg.
Credwn fod y sefyllfa yn wir yn fwy argyfyngus na phan weithredon ni am y tro cyntaf 40 mlynedd yn ol.
Ffred Ffransis
Myrddin Williams
Goronwy Fellows