Llythyrau
Pryder am adleoli swyddfa
Annwyl Olygydd,
Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi cyhoeddi’u bwriad i gau eu swyddfa yn Nhŷ Caradog, Caerdydd. Mae’r staff wedi cael gwybod y bydd yna gyfnod o ymgynghori gyda’r Undebau. Daw’r cyfnod ymgynghorol i ben ar Ebrill 19.
Fel un sydd ar hyn o bryd yn dysgu gyrru cerbyd rwy’n poeni am oblygiadau hyn i gyd i ni yma yng Nghymru.
Dyma’r swyddfa sydd yn gyfrifol am waith gweinyddol yr Asiantaeth Safonau Gyrru ac os wireddu’r bwriad fe fydd y gwaith hynny i gyd yn cael ei wneud o Ebrill 1, 2012, ymlaen ym mhencadlys yr Asiantaeth yn Nottingham.
Dyma ergyd arall eto i Gymru wrth i un swyddfa bwysig arall gael ei adleoli oddi yma. Mae hynny eisoes yn mynd i ddigwydd i’r Swyddfa Basbort. Mae yna bryder difrifol i wasanaeth Cymraeg yr Asiantaeth.
Rwyf yn annog darllenwyr Y Cymro, yn enwedig rheini ohonoch sydd fel fi wrthi yn dysgu gyrru, i ysgrifennu at ei Aelodau Seneddol i ddatgan gwrthwynebiad i’r bwriad yma.
Heledd Gwenog Llwyd,
Llandysul