Llythyrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Trefniadau’r Urdd yn creu problemau

Annwyl Olygydd,

Diolch i Dafydd Edwards, Rhostryfan, Gwynedd, am ei lythyr “Obsesiwn ag alcohol” yn rhifyn Chwefror 4 o’r Cymro.

Yr wyf innau yn synnu bod yr Urdd yn mynd ymlaen gyda’r un trefniadau meddwol y flwyddyn hon eto.

Pa esiampl yw hyn i’n plant a’n bobol ifanc? Creu gofid a phroblemau yr ydym i’n cartrefi a’n cymdeithas.

Gobeithiaf y bydd pobol y De yn protestio yn Abertawe am y trefniadau yma a gwrthod rhoi’r un geiniog at y costau.

Yn bennaf oll, gweddïwch am i’r Urdd newid ei meddwl er lles pawb.

Parch Maldwyn C John,, Rhydaman

Rhannu |