Llythyrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Gweld y nant heb amgyffred yr afon

Annwyl Olygydd,

Telynwyr yn tantro. Ffrae yn codi ynglŷn â cheinciau cymhleth. Y Cymro, Chwefror 11.

Mae’r Cymro wedi gweld y nant heb amgyffred yr afon. Y ffrae uchod yw’r nant. A’r afon? Gweler eich dyfyniadau “Y ffrae ar Facebook”:

“Meddwl fod 1 neu 2 alawon Cerdd Dant i’r Urdd eleni yn f***** c**p.”

“Mae angen sialens ar delynorion on this is taking the urine.”

“My God, mae hwn yn piece of piss i chwarae ar y delyn compared i’r lleill.”

“Piano is the way forward (am eleni)… at the end of the day, dydy telynorion ddim isho y hassle am ddiwrnod caled o waith, and don’t blame them.”

A ddarlleno ystyried. Yr afon Amazonaidd yw’r ffaith mai Wenglish yw iaith dilynwyr Cerdd Dant mwyach. Petai’r “iaith” uchod yn geffyl, byddai rhywun neu rywrai yn ei saethu. Mae hyd yn oed cyfrol newydd Y Pwyllgor Cerdd Dant yn arddel yr erthyl ail “joio”.

Un dyfyniad arall o Facebook i gloi: “Da iawn y telynorion sy’n g(w)neud safiad.” Beth am wneud safiad dros ein hiaith gyfeillion? Yn syml – ei pharchu hi.

Derek Hughes,

Padog, Betws-y-Coed

Rhannu |