Llythyrau
Magu mewn cymdeithas glos
Annwyl Olygydd,
Pan oeddwn i’n hogyn yn Rhosgadfan yn y pedwardegau hwyr roedd yno dri chapel yn agored. Erbyn hyn mae un wedi ei chwalu, a’r tri arall wedi cau. Yn y cyfnod hwnnw rwy’n cofio rhai fel Gwilym Boyer a Tom Nefyn yn dod i bregethu i Gapel Y Foel, a llawer un arall.
Roedd Ysgol Sul gref yn fy oedran i o ryw bymtheg o blant, ac yn ystod yr wythnos cynhaliwyd “Band of Hope”. Yr argraff a adawodd hyn ar rywun oedd ei fod wedi ei fagu mewn cymdeithas glos a ffeind er yr holl dlodi oedd yno yn y cyfnod hwnnw. Cofiaf fy mam yn bwyta sbarion ein crystiau ni, oherwydd roedd hi’n bechod i wastio dim” Cymdeithas wahanol iawn sydd ganddo ni heddiw ynte?
Mae’n siwr gen i fod dylanwad diwygiad 1904-5 yn dal yn gryf yn y tir. Byddai fy mam o bryd i’w gilydd y cael benthyg te, siwgr new fenyn gan NanNan a oedd yn byw yn yr un stryd, a byddai fy mam yn eu dychwelyd diwedd yr wythnos. Roedd hyn yn rhoi’r argraff ar fachgen bach ei fod yn byw mewn cymdeithas a oedd yn werth fod yn perthyn iddi. Bob nos Wener deuai Robert Owen Gors Goch i’n tŷ ni. Hen fachgen oedd tua saithdeg oed, ac ymhell dros chwe llath o daldra. Ni fyddai byth yn ymolchi na siafio, ac roedd ei ddillad yn sgleinio amdano. Y ffordd y byddai’n cael mynediad i’n tŷ ni fyddai dweud wrth mam: “Dwi newydd ddarllen yn y Caernarfon & Denbigh Herald, Maggie, a gweld fod yr hen blant bach wedi gwneud yn dda yn yr Ysgol Sul neu’r ‘Band of Hope’.” Llawr llechen oedd yn ein tŷ ni a byddai’r hen greadur yn poeri baco hyd y lle i gyd!
Cymdeithas gwbl Gymraeg oedd hon, ac os deuai dieithriaid i fyw i’n plith doedd ganddynt ddim dewis ond dysgu’r Gymraeg. Yn y pen draw roedd hy cwbl yma yn deillio o’r hyn a ddysgir i ni yn Y Beibl.
Edrychwch ar y cecru sydd yma yng Nghymru’r dyddiau yma rhwng y gwahanol garfanau â’i gilydd, a phob un yn meddwl eu bod yn iawn. Mae llywodraeth Llundain wrth ei bodd yn gweld hyn oherwydd eu polisi nhw fel ag erioed yw rhannu a choncro pobl!
Teulu o genhedloedd yw’r byd hwn, ac mae Cymru’n genedl gyda’i hiaith a’i diwylliant cyfoethog. Os am gadw ein hiaith a’n diwylliant does dim ond un ffordd amdani, a’r ffordd honno yw troi yn ôl at Dduw. Heb Dduw heb ddim.
Tom Jones, Caernarfon