Llythyrau
Mwy o loc-yps nag o loc-ins
Annwyl Olygydd,
A minnau newydd ddychwelyd o wyliau o ddiogi ac o seshus ar un o Ynysoedd Groeg dyma ganfod mewn rhifyn o’r Cymro bythefnos yn ôl lythyr o gerydd oddi wrth yr hen gyfaill Wil Roberts o Bwllheli. Byrdwn ei epistol oedd fy nghyhuddo o ragrith wedi i mi feirniadu pobl ifanc meddw ac anystywallt tra’n anghofio fy sesiynau chwedlonol fy hun yn yr Hydd Gwyn nôl yn nyddiau euraid y saithdegau cynnar.
Roedd gwahaniaeth mawr rhwng fy seshus chwedlonol i a’m ffrindiau â rhai pobl ifanc heddiw. Unig ddioddefwr fy seshus i oedd fi fy hun. Doedd loc-ins chwedlonol yr Hydd Gwyn ddim yn tarfu ar na theulu na ffrindiau, cymdogion na hyd yn oed ddieithriaid. Felly mae pethe o hyd o’m rhan i. Rwy’n dal i fwynhau ambell sesh, ond wedi cymedroli llawer. Ac onid oes gan feidrolyn yr hawl i gallio wrth iddo fynd yn hŷn? Fe ddaw i ran Wil ei hun rhywbryd, heneiddio a challio.
Ar ddiwedd ei lythyr mae Wil yn dweud hyn amdanaf: ‘Mae’n rhaid ei fod wedi anghofio iddo dreulio cyfran helaeth o oriau mân boreau ei ieuenctid yn igam-ogamu ar strydoedd Aberystwyth wrth gerdded adref o loc-ins chwedlonol tafarn yr Hydd Gwyn.’
Mae yna hen wireb am y chwedegau. Os oes yna unrhyw un sy’n medru cofio’r cyfnod, yna doedd e ddim yno. Mae’n amlwg fod yr un peth yn wir am y saithdegau cynnar. Nawr, hanfod unrhyw un o loc-ins chwedlonol yr Hydd Gwyn oedd na fyddai neb yn cofio am y digwyddiad hyd yn oed y diwrnod wedyn. Mae Wil yn amlwg yn eu cofio mor glir â jin gryn ddeugain mlynedd yn ddiweddarach. Hwyrach fod hynny’n dweud mwy amdano ef nag amdanaf fi.
Gwahoddaf ef i ddod lawr i Aber a threulio ambell i nos Wener neu nos Sadwrn hwyr – ac yn arbennig oriau mân fore Sul - yn crwydro top y dref. Ond cofied ddod â’i bolisi yswiriant bywyd (cyfredol) gydag ef. Mae yna fwy o loc-yps nag o loc-ins yn Aber bellach.
Iechyd Da,
Lyn Ebenezer.