Llythyrau

RSS Icon
16 Medi 2011

Cefnogi menter Radio Beca

Annwyl Olygydd,

Mae holl orsafoedd radio lleol de-orllewin Cymru bellach yn nwylo “Town and Country Broadcasting” – cwmni sy’n darlledu cyn lleied o Gymraeg ag sy’n bosib o dan amodau trwyddedi OFCOM. Ar ôl prynu Radio Ceredigion yn ddiweddar, cafodd y cwmni ei rwystro gan OFCOM rhag torri’r oriau darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg o 50% i 10%. D’oes fawr ddim o Gymraeg ar orsafoedd radio Sir Benfro a Sir Gâr ychwaith, dau gwmni arall sy’n eiddo i’r cwmni hwn.

Pan fydd trwydded bresennol Radio Ceredigion yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ofnir y bydd OFCOM yn barod i ganiatáu trwydded newydd heb osod unrhyw amod ynglŷn â darlledu canran o oriau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sgil dileu’r rhaglenni boreol ar gyfer y gorllewin gan Radio Cymru, byddai hynny yn gadael cymunedau a siaradwyr Cymraeg ar draws y gorllewin heb unrhyw wasanaeth radio lleol yn eu hiaith eu hunain. Mae’n sefyllfa ddigalon sy’n erydu ymhellach safle’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Mae Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, sydd â 3,000 o aelodau, yn cefnogi menter Radio Beca, sy’n gofyn i OFCOM am drwydded i sefydlu gorsaf radio gymunedol newydd i wasanaethu gorllewin Cymru, yn bennaf trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn cefnogi galwad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar i Lywodraeth Cymru rwystro OFCOM rhag cyhoeddi trwyddedau heb roi amodau ynglŷn â’r Gymraeg.

Parchg Ken Williams

Cadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin

Rhannu |