Llythyrau
Tydi cymunedau Cymraeg ddim yn ddibynnol ar ysgolion bach
Annwyl Olygydd,
Nid wyf erioed wedi ysgrifennu at bapur newydd o’r blaen ond y mae’r amser wedi dod i roi tipyn o ffeithiau moel mewn ymateb i fegaffon Llais Gwynedd – Alwyn Gruffydd. Fe ddywedodd rhywun unwaith rhywbeth fel hyn “dwedwch gelwyddau ddigon aml, ac yn y diwedd mi gredith pobl nhw” ac felly rwyf yn teimlo am fytheiriadau cyson a blinedig Alwyn Gruffydd ar faterion ysgolion Gwynedd.
Dyma’r ffeithiau gwirioneddol bwysig:
1. Tydi cymunedau Cymraeg ddim yn ddibynnol ar ysgolion bach – y mae llawer iawn o ffactorau pwysicach er enghraifft economi a gwaith, sefydliadau gwirfoddol a diwylliannol, capeli ac eglwysi ac yn y blaen. Faint o gynghorwyr a chefnogwyr Llais Gwynedd sydd yn ymwneud â’r sefydliadau hyn yn eu cymunedau tybed? Ychydig iawn yn fy mhrofiad i, ac wrth gwrs dim ond y cynghorwyr a’r cefnogwyr hynny sydd yn siarad Cymraeg fedar ymuno mewn gweithgareddau o’r math a’r gwir yw mai mewnfudwyr di Gymraeg yw prif ffynhonnell cefnogaeth llais.
2 Tydi ysgolion bach ddim yn lles o gwbl i addysg gynhwysfawr a datblygiad personol plant. Ffaith – y mae fy mhlant i a’m hwyrion a phlant eraill yn y bröydd gwledig hyn wedi teithio llawer iawn ymhellach i ysgolion na’r tair milltir sydd rhwng y Parc bondigrybwyll a Llanuwchllyn. Ffaith – y mae plant o ysgolion micro, weithiau yn gorfod symud i fyny i ysgol uwchradd ar eu pennau eu hunain, mater sydd yn creu loes fawr iddynt. Fe wyddwn hyn o brofiad – faint o blant Cynghorwyr Llais sydd wedi bod mewn ysgol fach? – dim llawer yn ôl fy ymchwil i. Ffaith – mewn ysgol fach yn aml does dim digon o blant i greu côr na thîm pêl-droed ac felly y mae datblygiad y plentyn yn dioddef, y mae ysgolion mwy yn medru darparu llawer iawn mwy o weithgareddau i ymestyn y plant.
Diolch wyf am ymroddiad Cyngor Gwynedd dan arweiniad Plaid Cymru i gael gweledigaeth eang ar anghenion cymunedau gwledig a Chymraeg y Sir trwy gefnogi datblygiad economi a chymunedol mewn dyddiau anodd iawn – dyma’r unig ffordd i ddiogelu ein cymunedau a’n hiaith.
J S Lewis
Trawsfynydd