Llythyrau
Ymateb i’r her di-niwclear
Annwyl Olygydd,
Wedi imi ymosod ar y bwriad o godi gorsaf niwclear newydd yn y Wylfa (Pum Rheswm Pam Na Ddylid Codi Atomfa Newydd; Y Cymro, Mai 13eg), mai ond yn iawn imi gynnig atebion i oblygiadau hynny.
1. Cyflogaeth
? Bydd y gwaith o ddatgomisiynnu’r Wylfa, sydd am gau yn 2012, yn sicrhau cyflogaeth i 607 o weithwyr am beth bynnag y 25 mlynedd nesaf.
? Arbed ynni – y darogan yw y gallem greu tua 100 o swyddi parhaol ar yr ynys o ddilyn esiampl yr Almaen.
? Prosiect Seagen, sydd yn defnyddio cerrynt y môr oddi ar arfordir Ynys Môn. Mae hwn yn cael ei ddatblygu yn rhannol gan RWE a bydd angen ei wasanaethu.
? Cynllun Centrica i ddatblygu ynni môr drwy godi cannoedd o felinau gwynt anferthol 15km oddi ar Ynys Môn ar leoliad 2200km sgwâr
? Cynlluniau ffotofoltaic a solar sydd yn cynnig cymaint o botensial.
? Cynlluniau cymunedol i greu ynni wrth felinau gwynt.
? Cynllun biomas posib ar safle Alwminiwm Môn
Rhagwelwn y bydd modd sicrhau gwaith i tua 1,500 o bobl wrth y cynlluniau uchod.
Yn ogystal â defnyddio’r technegau amgen, mae cynhyrchu’r offer ar eu cyfer yn cynnig cyfleoedd ychwanegol mewn llefydd fel Porthladd Caergybi a hen safle Alwminiwm Môn.
Yn yr Almaen heddiw, ceir tua 340,000 o swyddi yn y diwydiant ynni amgen tra bod tua 35,000 yng ngwledydd Prydain!
2. Ynni
? Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod modd, drwy ddulliau amgen, i Gymru sicrhau o leia’ dwywaith yr ynni a defnyddir yn y wlad ar hyn o bryd ac nad oes angen ynni niwclear.
? Ymchwil a gyhoeddwyd yn ‘Energy Policy’ yn dangos bod modd sicrhau 100% o anghenion ynni’r byd (nid trydan yn unig) drwy ddulliau amgen
? Cyhoeddwyd adroddiad gan yr Offshore Valuation Group, sydd yn dangos mai drwy ganolbwyntio ar bump o dechnolegau all-draeth – gwynt (gyda sylfeini sefydlog neu arnofiol), tonnau, llanw a ffrwd y llanw – mae’n bosib cynhyrchu 2,131 TWh/blwyddyn, bron yn chwe gwaith yr hyn a defnyddir yn y DU ar hyn o bryd
Rhaid gosod yr agenda heriol hwn yng nghyd-destun na fydd yr Almaen (4ydd economi fwya’r byd) yn codi rhagor o orsafoedd niwclear newydd a’r wythnos diwethaf mae Prif Weinidog Siapan (3ydd economi) hefyd wedi gofyn am ganslo’r 14 atomfa newydd oedd yn yr arfaeth yn y wlad honno a hynny er mwyn canolbwyntio ar arbedion ynni a chynhyrchu ynni amgen.
Nid oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud gan E-ON nac RWE i fuddsoddi yn yr Wylfa ac na fydd unrhyw benderfyniad terfynol tan 2013 ac mae geiriau Prif Weithredwr E-ON yn eu Cyfarfod Blynyddol 5ed Mai yn berthnasol “nid oes unrhyw fwriadau concrit i godi atomfeydd newydd”.
Dylai Cymru nawr ymateb i’r her di-niwclear a manteisio ar yr adnoddau naturiol cynhenid gwych sydd gennym ni i sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy.
Dr Carl Iwan Clowes FFPH – Pwyllgor Gweithredol PAWB