Llythyrau

RSS Icon
13 Mai 2011

Sylw am golli cwpl o brydau bwyd!

Annwyl Olygydd,

Rhaid dweud i mi ryfeddu wrth weld y stori ar eich tudalen flaen wythnos diwethaf am ympryd arbennig ymgyrchydd iaith. Neu efallai na ddylwn i synnu, wedi’r cyfan, bu hon yn hen dacteg gan Ffred Ffransis, ond o leia’ yn y gorffennol roedd yn ymprydio dros achosion gwerth gwneud safiad drostynt.

Erbyn hyn mae ei safiad wedi troi’n jôc, yr un fath ag ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn gyffredinol. Gyda’r Gymraeg yn wynebu ei thranc mewn degau o ardaloedd ledled Cymru, onid oes brwydrau pwysicach gan Mr Ffransis i ofidio yn eu cylch na’r ffaith fod llond dwrn o blant Y Parc yn gorfod mynychu ysgol yn y môr hwnnw o Seisnigrwydd yn Llanuwchllyn? (A hynny i gael gwell addysg ac mewn ysgol fydd yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â phlant tu hwnt i bentref mewnblyg Y Parc.)

Rhyfeddol hefyd oedd gweld Mr Ffransis yn trafod ei ympryd fel petasai yn ryw fath o hobi meddygol, drwy nodi fod modd “mynd am tua 70 awr heb ddŵr heb wneud niwed” – onid gwneud niwed ydyw holl bwynt ymprydio go iawn? Petai wir yn poeni am ysgol Y Parc oni ddylai fynd ymlaen i ymprydio am 90 awr efallai? Neu beth am gant o oriau?

Alla i ddim dychmygu ymprydwyr go iawn yn ymgyrchu gydag oriawr o’u blaenau, yn disgwyl i bethau newid cyn i’r cloc daro deuddeg. Gobeithio wir na fydd Y Cymro yn rhoi’r fath sylw i Mr Ffransis y tro nesa bydd yn mynd ati i golli cwpwl o brydau bwyd, a gobeithio y daw Cymdeithas yr Iaith i ffeindio ymgyrchoedd gwerth eu hymladd cyn i bawb roi lan ar eu protestio plentynnaidd.

Edwin Jones

Rhannu |