Llythyrau

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Cymanfa ganu

Annwyl Olygydd,

Bydd Cymanfa Ganu Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr yn ymweld â’r Central Methodist Church, Wesley Street, Morley, Leeds LS27 9EE ddydd Sadwrn 9 Mai.

Byddwn yn canu o 2.00 tan 3.30, ac o 4.45 tan 6.30, a bydd te a choffi ar gael rhwng y ddau gyfarfod ac ar y diwedd. 

Mae’r rhan fwyaf o’r emynau yn cael eu canu yn Gymraeg, a bydd y cyflwyno, y gweddïo a’r darlleniadau yn y ddwy iaith. 

Bydd y casgliadau’n sicrhau parhâd y Gymanfa a sefydlwyd ym 1903 yn Carlton, ger Barnsley, De Swydd Efrog gan lowyr a gweithwyr yn y diwydiant dur yno a ddaeth o Gymru yn wreiddiol, yn enwedig o Sir y Fflint.

Bydd y Parch Philip Barnett, o Wrecsam yn wreiddiol, yn arwain, a Carey Williams o’r Bala fydd yn cyfeilio ar yr organ.  Cenir eitemau cerddorol offerynnol yn nwy ran y Gymanfa i roi cyfle i’n lleisiau gael seibiant.

Mae’r M1 a’r M62 yn agos, mae meysydd parcio gerllaw, daw bysiau i ganol y dref a bydd rhai o’r trenau rhwng Manchester Victoria a Leeds yn aros yn Morley.
Am fwy o fanylion ffoniwch 01535 665829 neu e-bostiwch  jimwalker@mistral.co.uk

Diolch yn fawr iawn,
Eileen Walker (Ysgrifenyddes, Cymanfa Ganu Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr)

Rhannu |