Llythyrau

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Datganiad yn codi cwestiynau

Annwyl Olygydd,

Ryn ni wedi clywed dros y dyddiau diweddar fod Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yn “poeni am y tlodion” wrth annog unigolion i “beidio jyst meddwl am eich hunain” wrth bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’r Archesgob yn ychwanegu “…os yw Duw wedi creu’r byd yma, mae ef â chonsyrn am bob dim sy’n digwydd o fewn y byd yma.”

Ychwanega Dr Morgan ei bryder “…mai’r mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas fydd yn cael eu taro gwaethaf gan doriadau pellach i wasanaethau cyhoeddus.”

Da gweld y fath ddatganiad gan yr Archesgob er bod hynny’n arwain at ofyn beth yw ei farn am ddatganiad ei gyd-Anglican, Archesgob Caergaint, Justin Welby, ddwy flynedd yn ôl, fod y Frenhines wedi ei dewis gan Dduw? 

Yr ymadrodd a ddefnyddiodd Welby oedd “chosen by God” yn ystod oedfa dathlu 60 mlynedd ers coroni’r Cwîn a hynny’n awgrymu fod ei Dduw wedi ei dewis hi i fwynhau bywyd llawer mwy moethus na’r rhelyw o boblogaeth y byd yma? 

A beth yw ei farn am ragflaenydd i Welby, cyn-Archesgob Caergaint George Carey, a fu, ar un adeg, yn berchennog ar dŷ haf ar Benrhyn Gŵyr (ynghyd â chartref sefydlog yn ardal Newbury, Swydd Berkshire) am gyfnod cyn ei werthu er mwyn gallu treulio mwy o amser yn Nhŷ’r Arglwyddi, sefydliad hollol annemocrataidd, yn arbennig o gofio fod `na 26 o Esgobion Anglicanaidd SEISNIG yn meddu ar yr hawl i eistedd yno hefyd? 

Yn gywir
Androw Bennett, Llanarthne

Rhannu |