Llythyrau

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Pam trin Cymru yn wahanol?

Annwyl Olygydd,
Efallai bod eich darllenwyr yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DG wedi cyhoeddi pwerau pellach i Gymru y penwythnos diwethaf, yn dilyn trafodaethau trawsbleidiol y cymerais i ran ynddynt fel arweinydd Plaid Cymru.

Yr oedd cyhoeddiad Llywodraeth y DG yn cadarnhau na fydd Cymru yn cael cystal bargen ar bwerau  na chyllid â’r Alban neu Ogledd Iwerddon, heb sôn am y newidiadau sydd ar droed yn Lloegr.
Ni fydd Cymru yn cael  y cyfrifoldeb dros blismona, cyfiawnder, y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhan fwyaf o agweddau ar ein hadnoddau naturiol, treth teithwyr awyr na nifer o feysydd domestig eraill. 

Mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniadau hyn yng Nghymru gan mai’r bobl sy’n byw yma ac a ddaeth i fyw yma ŵyr orau am sut i redeg y wlad.
Yn dilyn refferendwm yr Alban llynedd, dywedwyd dro ar ôl tro fod y DG yn “deulu o genhedloedd”.

Os yw hyn yn wir, does dim cyfiawnhad dros drin Cymru yn wahanol i’r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Llynedd, fe welsom elite San Steffan yn gorfod cymryd sylw o’r Alban. Rhaid oedd iddynt hefyd barchu gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon a wrthododd weithredu diwygiadau lles heb gonsesiynau cyllidol.

Fy neges i bobl Cymru heddiw yw bod pwysigrwydd Cymru yn yr etholiad hwn ac ar ôl hynny yn eu dwylo hwy.

Os bydd Cymru yn ethol tîm cryf o ASau Plaid Cymru ym mis Mai, yna byddwn mewn sefyllfa i ddod â’n llywodraeth adref a chyflwyno cydraddoldeb i Gymru.
Bwriad Plaid Cymru yw sicrhau Mesur Cymru yn y senedd newydd fydd yn rhoi cydraddoldeb cyfle ac adnoddau i Gymru. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’n cenedl ffynnu fel y gwyddom y gall.
Leanne Wood
Arweinydd Plaid Cymru

Rhannu |