Llythyrau

RSS Icon
06 Mawrth 2015

Cydymaith cyson mewn tref ar y ffin

Annwyl Olygydd,
Yn ddiweddar mewn caffi yn fy milltir sgwâr roeddwn i’n eistedd gyda chydymaith cyson, sef Y Cymro. Sylwodd y perchennog a holi’r cwestiwn disgwyliadwy: “Pam dych chi yn dewis y papur newydd hwnnw?” Mae’r cwestiwn yn haeddu ymateb ystyriol.
Wel, ar lefel arwynebol, gallwn i wedi cynnig ateb amlwg: dw i’n hoffi darganfod beth sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, a beth sy’n digwydd o’m cwmpas yng Nghymru. Ond byddai hyn yn rhy rhwydd fel ateb. Mae’r Cymro, yn ogystal â bod yr unig bapur cenedlaethol yng Nghymru yn y famiaith, yn symbol grymus ac ysbrydoledig.

Heb flewyn ar fy nhafod, nid wyf yn ystyried Y Cymro fel papur newydd nodweddiadol. Er enghraifft, dych chi ddim yn dod ar draws gormod o newyddion rhyngwladol. Anaml y gwelir hyn. Os ydych am ddarllen papur confensiynol rhaid ichi edrych rhywle arall.

Cyhoeddiad hollol wahanol yw’r Cymro. Yn fy nhyb i, mae’r Cymro yn symboleiddio ac  yn amlygu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar gyfer y rheiny sy’n byw eu bywydau trwy gyfrwng y famiaith. Ar gyfer pobl o’r fath, yr iaith frodorol yw eu helfen naturiol, mor sylfaenol ag ocsigen. Felly, mae’r cyfle i ddarllen y newyddion yn eu mamiaith yn arbennig o bwysig. Drwy ddarparu’r cyfle hwn mae’r Cymro’n parchu’r iaith a thrwy’r iaith eu hunaniaeth. Mae’r cysylltiad rhwng iaith a hunaniaeth yn anwahanadwy.

Hefyd mae’r Cymro yn dangos yn glir bod ein hiaith hynafol yn fwy nag alluog i ymdopi, beth bynnag y pwnc. Er enghraifft, ar y naill law yn Y Cymro rydym yn dod o hyd i eitemau am bynciau rhagweladwy – sef gwleidyddiaeth a rygbi, ond ar y llaw arall mae pynciau llenyddol, megis adolygiadau llyfrau a barddoniaeth, yn cael eu cynnwys. Wrth gwrs ar adegau mae’r Gymraeg yn gorfod benthyg geiriau, yn union fel llawer o ieithoedd eraill, yn enwedig Saesneg. Yn olaf, cydnabyddir bod Y Cymro wedi chwarae, a dal i chwarae, rôl hanfodol yn amddiffyniad a chefnogaeth y famiaith. Drwy roi llais i’r iaith mae’r Cymro yn helpu i gadarnhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Fy nghydymaith cyson yw’r Cymro. Dw i’n byw mewn tref ar y ffin ble mae dim ond ychydig o bobl yn medru Cymraeg. Mewn lle o’r fath mae’n eithriadol o bwysig i gadw’r iaith yn olwg y cyhoedd, felly mae darllen Y Cymro yn weledig yn gam bach i’r cyfeiriad iawn. Yn anffodus, gan fod perchennog y caffi yn ddi-Gymraeg, ni fydd y llythyr hwn yn ei helpu i ddeall yr ateb i’w gwestiwn. ‘Na drueni!
Roger Kite, Llanandras, Powys

Rhannu |