Llythyrau
Gorffen heb gyrraedd unrhyw fan uchel
Annwyl Olygydd,
Heb ddim rhybudd daeth Lan a Lawr S4C i ben. Cymrodd le Pobol y Cwm ar nos Fercher am rai wythnosau, yn sicr datblygiad oedd i’w groesawu.
Credais fod y gyfres hon am fod gyda ni am beth amser. A dyma hi’n gorffen heb gyrraedd unrhyw fan uchel mewn gwirionedd.
Os oedd S4C am gwtogi ar Bobol y Cwm a rhoi rhywbeth newydd i ni roedd yn rhaid iddo wneud argraff. Prin y gellid dweud hynny am Lan a Lawr. Bu’n araf iawn yn mynd i unlle ac ni chredaf fod y plot wedi bod yn ddigon deniadol i fachu gwylwyr arferol Pobol y Cwm.
Beth sydd yn ei lle? Porth Penwaig. Ail ddarllediad o gyfres a ddangoswyd gyntaf ar nos Sul bedair blynedd yn ôl. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud am y fath ddyfeisgarwch. Rydym yn deall fod arian yn brin ond a oedd raid iddi ddod i hyn? Mae hi’n greisus pan mae angen ail ddarlledu am wyth o’r gloch er mae’n amlwg nad yw S4C am wneud drama (wreiddiol) o hynny.
Pryd y cawn ni’r brotest i ddweud fod hyn yn annerbyniol?
Wythydd blin
(Cafwyd enw a chyfeiriad y llythyrwr)