Llythyrau
Hunllef Syr Wynff
Annwyl Y Cymro,
Diddorol oedd clywed y newyddion am atgyfodiad Syr Wynff a Plwmsan i’n sgriniau teledu. Chwa o awyr iach, ar ôl blynyddoedd llwm efallai? Tybed?
Dyna siomedig oedd gweld beth oedd yr arlwy. Do, gwelwyd Wynford Elis Owen a’r comig Mici Plwm yn actio, ond yn hytrach na’r ‘slepjan’ hwyliog a’r ‘haia Wynff’ direidus, yr hyn a gafwyd oedd dynwarediad sâl o blismyn treisgar, fel pe tasent wedi eu gosod yng nghanol isfyd un o nofelau tywyllaf Llwyd Owen!
Ar y rhaglen ‘Ddoe am Ddeg’ y gwelais yr eitem, ac roedd y golygfeydd mor erchyll a threisgar ni allwn barhau i wylio.
Beth sy’n dod o’r wlad yma os yw Syr Wynff o bawb yn defnyddio trais ar ein sgriniau teledu?
Onid yw Wynford Elis Owen yn ceisio amddiffyn plant bach rhag niwed honedig alcohol yn ei swydd bob dydd?
Sut y gall gysoni hyn gyda’i anogaeth i bobl ifanc Cymru weld golygfeydd treisgar, annifyr gyda gynnau ac offer peryglus o’r fath?
Efallai ei fod yn teimlo fod annog trais yn gwbl dderbyniol ac yn iawn i’w gymryd yn ysgafn, yn wahanol i alcohol?
Gobeithio wir y daw penaethiaid ein sianel i’w synhwyrau a dirwyn yr arbrawf gwallgof hwn i ben.
Dafydd Edwards