Llythyrau
Diolch i’r gwasanaeth iechyd
Annwyl Olygydd,
Gair gwerthfawrogol o ddiolch ac o ganmoliaeth ddyledus i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ydi pwrpas y llythyr hwn, oherwydd ma’ nhw wedi cael eu colbio yn ddidrugaredd yn ddiweddar o bob cyfeiriad.
‘Rydw i wedi dioddef pedwar o wahanol afiechydon pur ddwys yn ystod yr hanner-can mlynedd diwethaf, a ‘does gen i ddim ond diolch o waelod calon i’r holl feddygon a’r nyrsys fu’n gofalu amdanaf.
‘Taswn i wedi gorfod talu am yr amrywiol driniaethau hynny mi fuaswn ar y “Garreg Domos” ers blynyddoedd!
Wrth gwrs fod ‘na ffaeleddau yn y system, ‘does neb yn gwadu hynny, ond er yr holl ddiffygion ‘ryda ni’n ffodus i gael un o’r gwasanaethau iechyd mwyaf llwyddiannus yn y byd.
Felly, hir oes i’n Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ni yng Nghymru, a naw wfft i Mr Cameron, sydd, fel y gŵyr pawb call a’i ddwy lygad boliticaidd bryderus ar fis Mai!
Wedi’r cyfan mae ganddo broblemau cyffelyb yr un mor ddyrys tros Glawdd Offa – y ffin y mae o mor hoff o’n hatgoffa o’i bodolaeth!
Yn gywir,
Vernon Jones
Llanfairpwll, Ynys Môn