Llythyrau
Rheibiwr cymunedol
Annwyl Olygydd,
Ym mis Mai bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu yn derfynol ar ddyfodol ysgolion cylch Y Bala.
Y mae’r gymdeithas wedi mynegi ei chefnogaeth i sefydlu Ysgol Gydol Oes yn nhref Y Bala, a bydd y tair ysgol yn y dref yn cau ac un ysgol newydd yn agor ar gampws presennol Ysgol y Berwyn. Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys plant cynradd ac uwchradd mewn un sefydliad modern. Y mae’r cynllun yn un cymeradwy a gobeithir y fawr y bydd arian cyfalaf digonol yn cael ei neilltuo i wireddu’r cynllun hwnnw.
O amgylch tref Y Bala y mae pedair o ysgolion gwledig sef Parc, OM Edwards, Ffridd y Llyn a Bro Tryweryn. Dymuniad y pedair ysgol oedd ffederaleiddio i sefydlu un ysgol ar bedwar safle gydag un prifathro ac un corff llywodraethu. Fe fyddai gan yr ysgol newydd y rhyddid i redeg y safleoedd hynny yn ôl ei doethineb ac oddi mewn i gyllideb yr ysgol newydd.
Efallai na fyddai hi’n bosibl o ran cyllideb i agor yr ysgol newydd ar bob safle bob dydd, ond fe fyddai gan yr ysgol newydd y rhyddid i benderfynu ar hynny.
Y mae hi’n affwysol drist nad yw arweinyddiaeth bresennol Cyngor Gwynedd yn cytuno â ffederaleiddio ysgolion gwledig Y Bala, yn groes i farn pawb yn lleol.
Trwy beidio â ffederaleiddio’r ysgolion gwledig y mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu cau Ysgol Parc yn gyfan gwbl. Bydd hynny yn gyfystyr a bwrw gwaywffon i galon y pentref diamddiffyn hwnnw a darnio a dinistrio strwythur y gymdeithas ddiwylliedig honno sydd wedi bod yn bwerdy i’r Gymraeg ers canrifoedd.
Yn ogystal, trwy beidio â ffederaleiddio y mae’r cyngor sir yn peryglu einioes y tair ysgol wledig arall ac yn eu gadael ar eu pennau eu hunain i wynebu’r un problemau demograffig sydd wedi wynebu Ysgol Parc, sef cau’r ysgol leiaf a gwneud ysgol arall yn ysgol leiaf yn lle’r un sydd wedi cau.
Y mae pobl y cylch hwn yn casáu cynllun gormesol Cyngor Gwynedd. Yng ngolwg nifer sylweddol o bobl y mae’r cyngor wedi colli ei hygrededd fel Awdurdod Addysg ac wedi troi i fod yn ormeswr ac yn rheibiwr cymunedol.
Ni wn i am yr un polisi gan Gyngor Gwynedd sydd yn egluro mai cau Ysgol Parc sydd orau i gymunedau gwledig Y Bala. Yn wir, y mae cau’r ysgol yn groes i amcan un o Gynllun Tair Blynedd Cyngor Gwynedd ar gefnogi’r cymunedau gwledig. Ni wni i chwaith am yr un polisi neu reol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sydd yn nodi yn gwbl eglur y dylid cau ysgolion bach y sir. Nid yw dileu llefydd gweigion ddim yn gyfystyr â chau ysgol. Fe ellir dileu’r llefydd gweigion drwy ffederaleiddio ysgolion a defnyddio’r adnoddau addysgol, gan gynnwys adeiladau, mewn ffyrdd llawer mwy creadigol na’ hyn a wneir ar hyn o bryd. I wneud hynny, rhaid i’n harweinyddion ddysgu i feddwl yn wahanol ac i ymddwyn yn llawer mwy arloesol.
Ar sawl achlysur wrth eistedd yn Siambr Cyngor Gwynedd a gweld cynifer o aelodau galluog yn pleidleisio tros gau Ysgol Parc, sydd yn berl amhrisiadwy ym Mhenllyn, meddyliais am gerdd Robert Frost ‘The Road Not Taken’:
‘I shall be telling this with a sigh
Somewhere ages and ages hence:
Two roads diverged in a wood, and I -
I took the one less travelled by,
And that has made all the difference.’
Yr wyf yn ymbil ar fy nghyd aelodau i beidio â chau Ysgol Parc ac i arddel ffederasiwn fel y dull addysgol sydd yn cynnig ateb amgenach i addysgu plant yr ardaloedd gwledig yma yn nalgylch y Berwyn.
Cyng Dylan Edwards,
Llanuwchllyn