Llythyrau

RSS Icon
08 Ebrill 2011

Mynnwch stampiau post Cymreig

Annwyl Olygydd,

Y mae Post Brenhinol Lloegr, (sy’n dal cyfrifoldeb am gynhyrchu stampiau post hyd yma yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon), yn cynhyrchu 10 stamp post ar 12 Ebrill eleni i ddathlu pymthegfed pen-blwydd y Cwmni Drama Brenhinol Shakesperaidd.

Ust! Da chwi peidiwch grybwyll, na sibrwd wrthynt, enwau rhy Gymreig fel Elis y Gowpar, Twm o’r Nant, a dramodwyr fel Huw Lloyd Edwards, Saunders Lewis, Gwenlyn Parry, Wil Sam, a llawer i un arall. Y tro hwn, er bod rheol bendant ar gael gan y Post Brenhinol yn Lloegr na ellir defnyddio ar stampiau post bersonau sydd ar dir y byw, defnyddiwyd lluniau actorion sy’n dal ati i anadlu!

Os rheol, yna rheol y gellir ei thorri’n racs gybyrion – hynny ydi os mai sefydliad Seisnig ydych chwi a fyn ddal ei gafael ar yr elw o argraffu stampiau post sy’n hyrwyddo Prydeindod-Seisnig, a dim byd arall.

Mi allwn ni brotestio wrth y Post Brenhinol yn Lloegr, (dicin i fod llythyr o brotest hallt wedi ei anfon o’r Cynulliad Cenedlaethol), ond yn y gorffennol atebion oeraidd-negyddol a gafwyd oddi wrth y fath sefydliad unllygeidiog, yn efyn arnom i beidio sgwennu atynt.

Gyda’r Etholiadau gogyfer â’r Cynulliad Cenedlaethol a Sirol ar y gorwel mynnwch sylw, a diddordeb eich ymgeiswyr lleol, ynghylch newid y sefyllfa sydd ohoni, a bod yma yng Nghymru stampiau post unigryw Cymreig.

Ein gwlad ni ydy hi. Shakespeare? Ni piau Shane Williams, Betsi Cadwaladr, Dafydd ap Gwilym, Angharad Tomos, Waldo, a Mererid Hopwood. Gwnewch yn fawr ohonynt! Mynnwch gyfiawnder i’ch gwlad ar lun stampiau post Cymreig.

Dafydd Guto Ifan

Rhannu |