Llythyrau

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Drylliad oes o dybio fy hunan yn Gymro o iawn ryw!

Annwyl Olygydd,
Syfdran y daeth canlyniad y DNA Y (llinach gwryw), yn datgelu rhyw gyfrinach gudd mai Germanic S1B-S21 ydwyf, fel y rhan helaeth ohonom ym Mhrydain.
Drylliad oes o dybio fy hunan yn Gymro o iawn ryw ac o dras y Brython y gorffennol pell.
Ai breuddwyd gwrach felly yw imi ddal i uniaethu fy hunan ar y ddelwedd hon?
Toes bosib fod canlyniad y prawf DNA yn gallu hawlio yr holl wybodaeth am lwybrau bywyd, FritzWilhelm, (neu beth bynnag oedd ei enw Sacsonaidd) pan ddaeth i ymosod, o lannau’r Rhein, ar y Brythoniaid yn 401OC. 
Beth ddigwyddodd wedyn, tybed, i dras gwrywaidd FritzWilhelm ar ôl hynny?
Mae fy lleoliad i yn 2015 yn profi iddynt ledaenu dros y canrifoedd ar draws Ynys y Cedyrn cyn ymsefydlu, o leiaf am y canrifoedd olaf, ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd. 
Os yw’r “pethau yma” yn rhedeg yn y teulu, addefaf wendid a synnwn i fawr bod merched tlysaf y Brythoniaid hyd at ferched deiniadol Pen Llŷn wedi eu gwirioni ac wedi eu dylanwadu, o leiaf ar y trywydd iawn!  
A dyma fi, “yma o hyd”! Diolch i ferched glan, Walia!
Aufrichtig,
Tomos ap Gwilym. Ynteu Thomas Fritz Wilheim?

Rhannu |