Llythyrau
Darpariaeth wedi dirywio’n enbyd
Annwyl Olygydd,
Difyr oedd gweld llythyr y Comisiynydd Iaith yn rhifyn diwethaf y Cymro’n cyhoeddi ei bwriad i edrych ar wasanaeth Cymraeg y banciau.
Byddwn yn annog pawb i anfon tystiolaeth ati i’w chynorthwyo, ond yr un pryd yn eu rhybuddio i beidio â disgwyl gwelliant o’i herwydd.
Ers i Ddeddf 2011 ddod i rym mae’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer gwasanaethau hanfodol oddi wrth gwmnïau masnachol wedi dirywio’n enbyd.
Mae gwefan Cymraeg Parcelforce wedi diflannu ers talwm, a thu hwnt i dudalen ‘groeso’ y Swyddfa Post mae’n rhaid chwilio am wybodaeth yn y Saesneg.
Mae banc/cwmni adeiladu’r Nationwide wedi gwneud i ffwrdd â’r dewis Cymraeg oedd ar eu peiriannau twll yn y wal, a lle aeth eu staff Cymraeg?
Cymharwch hefyd fil BT heddiw â bil BT o rai blynyddoedd yn ôl, neu’r ffaith fod yn rhaid bellach siarad â rhywun Saesneg er mwyn delio ag unrhyw fater technegol neu gytundebol.
A’r gohebiaeth? Mae honno naill ai fisoedd yn hwyr, neu’n cynnwys dim ond llythyr cyflwyno uniaith Saesneg, neu’n cyfeirio’r cwsmer at dudalennau gwe Saesneg… ac yn y blaen.
A Scottish Power? Mae eu ‘rhyngwyneb’ Gymraeg nhw – eu un aelod staff, rhan amser – wedi diflannu, dydi e-byst Cymraeg ddim yn cael eu hateb a galwadau ffôn i’r llinell Gymraeg yn cael eu hateb yn Saesneg.
Ac wrth gwrs mae pob gohebiaeth gan y cwmni yn uniaith Saesneg. Dyma pa mor effeithiol mae’r Comisiynydd wedi bod hyd yn hyn.
I fod yn deg â hi, mae ei dwylo wedi eu clymu gan y Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod ‘ateb rhannol’ gan gwmni’n ddigon i ateb cwyn gan gwsmer, ac unwaith y mae cwyn wedi ‘ei ateb’ fe gaiff yr hyn a gwynwyd amdano barhau neu ddirywio’n ôl i’r hyn oedd o cyn y gwyn.
Wnaiff y Comisiynydd ddim byd pellach. Dyma fy mhrofiad i, beth bynnag.
Felly, beth i’w wneud? Wrth gwrs parhau i gwyno ac i bwyso ar ein gwleidyddion, pob cyfle gawn ni, i gryfhau neu’n well byth i ddiwygio’r Ddeddf.
Ond hefyd disgwyl i’n Comisiynydd weithredu ysbryd, yn hytrach na dim ond llythyren, y ddeddf honno.
Fe roddwyd yr argraff, wrth gyflwyno Comisiynydd Iaith, y byddai hyn yn sicrhau, yn gwarchod ac yn datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg.
Mae’r hyn a gawsom ni fel piso ar rug pan fo’r mynydd ar dân.
Y dymuniadau gorau,
Dafydd Chilton
Ysbyty Ifan