Llythyrau

RSS Icon
06 Chwefror 2015

Toriadau addysg niweidiol

* Llythyr agored at Y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd

Annwyl Dyfed Edwards,
Ar nos Fercher, Ionawr 28ain 2015, cynhaliwyd cyfarfod hollol ddigynsail o Gadeiryddion Cyrff Llywodraethu a Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Gwynedd, yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, i drafod y toriadau arfaethedig i gyllidebau ysgolion Gwynedd.
Deallwn fod y Cyngor yn bwriadu torri £4.3m o gyllidebau’r ysgolion dros gyfnod o 3 mlynedd.
Rydym yn deall y cyd-destun ariannol echrydus y mae’r cyngor yn gorfod ei wynebu ac yn cyd-ymdeimlo’n fawr efo’r dasg sy’n eich wynebu.  
Serch hynny, gan mai prif gyfrifoldeb y cadeiryddion yw sicrhau addysg safonol i blant Gwynedd, mae’n ddyletswydd arnom i dynnu eich sylw at yr effaith gwbl negyddol a phellgyrhaeddol y byddai’r toriadau yn cael ar ansawdd addysg a phrofiadau’r disgyblion yn ein hysgolion, yn ogystal ag ar safonau eu cyflawniad.
Rydym yn cytuno yn llwyr â chynnwys Cynllun Strategol y cyngor a’r canlyniadau yr ydych yn gweithio tuag atynt ym maes plant a phobol ifanc.
Yn anffodus, nid ydym yn credu fod modd cyrraedd y nod ar draws nifer o fesuryddion perfformiad, rhai CA4 yn benodol, os bydd y toriadau hyn i gyllidebau ysgolion yn cael eu gwireddu. 
Sylwn fod penaethiaid yr ysgolion cynradd ac uwchradd, yn y Fforwm Cyllid yn ddiweddar, wedi cytuno mai £1.9m yw’r uchafswm y mae modd ei dorri, gan y byddai unrhyw doriad y tu hwnt i hynny yn cael effaith sylweddol iawn ar safonau.  
Bydd y toriad o £1.9m ynddo’i hun yn niweidiol iawn i ansawdd addysg ein plant, ac mae Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu Ysgolion Uwchradd Gwynedd yn cytuno gyda’r penaethiaid, ac yn unfrydol yn eu pryder dwys am effaith unrhyw doriadau uwchben yr £1.9m.
Credwn y bydd hyn yn cael effaith barhaol ar addysg a phrofiadau’r disgyblion, yn arbennig felly’r profiadau ‘cyfoethogol’ hynny sydd mor bwysig i’w datblygiad.
Bydd yr effaith wrth golli staff, yn enwedig y rhai arbenigol hynny sy’n helpu’r disgyblion bregus a chyfrannu at wella presenoldeb, yn sylweddol, a bydd y canlyniadau yn gwbl groes i flaenoriaethau’r Cyngor a’r Adran Addysg, blaenoriaethau Estyn a pholisïau Addysg Llywodraeth Cymru.
Yn sgil hyn, hoffai dirprwyaeth o’r cadeiryddion gyfarfod aelodau allweddol o Gabinet y Cyngor ar fyrder i drafod y toriadau arfaethedig er mwyn diogelu ansawdd addysg a safonau cyflawniad pobl ifanc Gwynedd.
Dafydd M Roberts,
Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion Cyrff Llywodraethu a Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Gwynedd

Rhannu |