Llythyrau

RSS Icon
08 Ebrill 2011

Cryn ganu ar englynion

Annwyl Olygydd,

Dyma’r englynion roedd eich colofnydd Arthur Thomas yn holi amdanyn nhw yn Y Cymro.

Rydw i’n meddwl eu bod nhw’n gywir. Mi daerwn mai W D Williams, y Bermo, oedd yr awdur ond dydyn nhw ddim yn y ddau lyfr o’i waith sy’ gen i. Bu cryn ganu arnyn nhw yn y pedwar degau.


Mae’r hogia oedd mor agos – wedi mynd

Ymhell o’u hen deios,

A hir yw pob ymaros,

Amdanynt fan hyn fin nos.


Robin sydd yn Arabia, – a Dewi

Ar dywod aur Libya,

Now a Sem yn Ynys Iâ,

A Dan ym Macedonia.


Mae’r hen Bob yn Nairobi, – Huw a Rhys

Yn yr Aifft yn pobi,

Sam El ym mro Somalia,

Now Rhyd Sarn yn y Red Sea.


Sionyn yn Abyssinia, – Deio’r Bont,

G’radur bach, yn India,

Ned y Rhiw yng Ngwlad yr Ha’,

A Stan ym Mhalesteina.


Sianco Puw yn Singapôr, – a Huw Fôn

Yn fêt ar long danfor,

Ni ŵyr neb ble mae Trebor

Na Deio’r Maes ond “ar y môr.”


Minnau yn Llanymynydd – yn holi

Am eu helynt beunydd,

O na ddeuai’n fuan ddydd,

Y gwelem bawb ein gilydd


Endaf Jones,

Y Groeslon


DAETH llythyr ynglŷn â’r englynion i’r swyddfa gan Jean E Hughes, o Langollen, hefyd:

Rwyf yn cofio tri ohonynt. Clywais i nhw pan oeddwn yn ieuanc yn ardal Dolwyddelan, lle roeddwn yn byw cyn priodi (yn 1958).

Rwy’n gobeithio eu bod nhw’n gywir a byddant ryw help i Arthur Thomas.

Rwy’n cael Y Cymro ers blynyddoedd ac yn edrych ymlaen at ei gael bob wythnos. Daliwch ati.

Rhannu |