Llythyrau

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Galw am lais cryfach i Gymru

Annwyl Olygydd,

Ar Fawrth 3, mae refferendwm i benderfynu a yw Cymru yn haeddu llais cryfach.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae’r Cynulliad yn raddol wedi tyfu mewn statws a hyder. Ond mae’r system i wneud cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru yn araf a chymhleth. Mae’n gwastraffu amser ac arian.

Bydd pleidlais Ie yn caniatáu i’r Aelodau Cynulliad dreulio llai o amser yn sôn am y trefniadau a mwy o amser yn canolbwyntio ar y problemau yn ein cymunedau.

Pam y dylai Cymru orfod aros tair blynedd i wella gwasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl pan fo’r holl bleidiau yn cytuno fod angen newid? 

A pham y dylai’r Alban a Gogledd Iwerddon (sy’n hanner maint Cymru) gael yr hawl i osod eu hagenda eu hunain pan na all Cymru?

Er ein bod o bleidiau gwahanol, rydym wedi dod ynghyd i sefyll gyda’n gilydd y tu ôl i egwyddor syml – dylai deddfau sy’n gymwys yn unig yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Am hynny mae’r refferendwm ar Fawrth 3, ac rydym angen eich help i gael pleidlais Ie.

Da chi, helpwch yr ymgyrch drawsbleidiol trwy edrych ar-lein ar www.iedrosgymru.com a rhoi’ch enw i helpu.

Carwyn Jones, Llafur; Ieuan Wyn Jones, Plaid Cymru; Nick Bourne, Ceidwadwr; Kirsty Williams, Democrat Rhyddfrydol; Roger Lewis, Cadeirydd ‘Ie dros Gymru’

Rhannu |