Llythyrau

RSS Icon
01 Ebrill 2011

Sarhad ar gefnogwyr pêl-droed Cymru?

Annwyl Olygydd,

WEDI bod mewn amryw o wledydd yn gwylio pêl-droed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffaith bod Stadiwm y Mileniwm yn trin cefnogwyr pêl-droed Cymru mor wael yn fy nghythruddo.

Ar drip diweddar i’r Swistir, roedd y stiwardiaid yn gymwynasgar wrth gynorthwyo cefnogwyr Cymru i glymu ein baneri lan. Y faner, symbol o wladgarwch, ac o falchder.

Wrth geisio hongian ein baner ni yn y stadiwm yn ystod gêm Cymru v Lloegr, roedd ymateb y stiwardiaid yn annigonol. Yn gyntaf, roedd y faner mae’n debyg yn cuddio’r hysbysfyrddau, er bod baneri Lloegr yn cael eu hongian dros yr hysbysfyrddau.

Wedyn dywedodd y stiward bod hwn yn bolisi gan reolwr y stadiwm, wedyn yn bolisi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Pa un o’r rhesymau hyn oedd yn wir?

Mae’n anodd gwybod, gan fod y stiward wedi dweud celwydd yn barod wrth ddweud y byddent yn symud baneri Lloegr yn yr un modd a rhai Cymru ar ôl i ni wneud.

Bygythiodd y stiward y byddai’r faner yn cael ei gymryd oddi wrthym.

Cefais wybod yn ddiweddarach bod un o’m cyd gefnogwyr wedi cael ei daflu allan o’r stadiwm mewn sefyllfa debyg, gan ei fod wedi meiddio arddangos ei faner er mwyn cefnogi’r tîm. Wedi gofyn a oeddent yn gwahaniaethu ar sail ein cenedligrwydd, ymatebodd y stiward ei fod yn cytuno, ond nad oedd e’n gallu gwneud unrhyw beth ynglŷn â’r anffawd.

Rhaid gofyn y cwestiwn felly, polisi pwy yw hyn? Ydy polisi sy’n amlwg yn gwahaniaethu ar sail Cenedligrwydd yn gyfiawn?

Fe fyddai un rheol i bawb yn ddigon teg ond nid dyma’r achos yn Stadiwm y Mileniwm, ac efallai bod hyn yn broblem sy’n dod yn sgil cynnal gêm bêl-droed mewn stadiwm sydd wedi’i anelu at gynnal gêmau Rygbi?

Yn ogystal â hyn, roedd nifer o’r blychau lletygarwch ar ochr Cymru o’r stadiwm wedi’u llenwi gan gefnogwyr Lloegr.

Tra bod polisïau tocynnau’r Gymdeithas Bêl-droed yn nodi’n glir nad oedd hawl gan gefnogwyr Lloegr eistedd yng nghanol Cymru, paham felly wedi dweud wrth y stiwardiaid, y cawsom yr ateb “we can’t do anything about it”. Unwaith eto anghysondeb amlwg yn y polisïau tocynnu a stiwardio.

Gwenllïan Young

Rhannu |