Llythyrau
Eliffant gwyn fydd ar gau y rhan fwyaf o’r amser
Annwyl Olygydd,
Un da oedd pennawd atebiad Mr Roger Thomas, Cyfarwyddwr y Cyngor Cefn gwlad, i’m llythyr yn Y Cymro yn ddiweddar. I’ch atgoffa, fe ddilornais ei gynllun i ddifetha ardal Tal-y-llyn trwy fynnu codi caffi wrth droed Cader Idris, un o’r mannau naturiol hyfrytaf trwy Gymru gyfan. Pennawd ei atebiad i mi oedd “Denu Ymwelwyr a Chreu Swyddi”.
Dyna ddangos faint mae o a’i gyfundrefn yn ei wybod am Dal-y-llyn. Gwell i mi, felly, eich goleuo, Mr Thomas!
Yr hyn sy’n rheoli llif ymwelwyr i Dal-y-llyn ydy’r TYWYDD. Er bod amryw byd yn dod yma i bysgota’r llyn , dringo’r Gadair ydy nod y mwyafrif o ddigon. Ar benwythnosau neu adeg gwyliau, pan fydd hi’n braf, mi fydd y maes parcio swyddogol yn orlawn. Pan fydd hi’n bwrw glaw (ac mae hynny’n eithaf aml yma) does yna fawr o neb, ac mae hynny’n ddealladwy. Pwy sydd eisiau llafurio i ben y Gader a methu gweld cledr ei law heb sôn am y golygfeydd godidog? Neb call. Dydy bodolaeth caffi yn mynd i newid dim ar hynny. Yn hytrach – fel mae Deiseb sydd wedi ei harwyddo gan ddwsinau yma yn ddiweddar yn dangos – siomi a gwylltio cerddwyr wnaiff Caffi yn y llecyn arbennig yma yn y coed wrth droed y Gader, eu cynddeiriogi gan y llygreddau sy’n dilyn caffi, sef llygredd sŵn, golau, erydiad tir a byd natur a chymeriad ardal, sbwriel, carthion a.y.b., llygreddau diangen yng nghanol perffeithrwydd natur. Aeth rhai cerddwyr mor bell â dweud wrth arwyddo’r Ddeiseb, na fyddent yn dringo’r Gader o’r ochr yma eto os codir caffi yma! Dyna gryfder teimladau ar y mater i chi. “The magical lead into Cader from this side will be lost…” Felly, nid fi yn unig sy’n dweud hyn, Mr Thomas, ond yr ymwelwyr yr ydych chi mor awyddus i’w denu.
Eich ail jôc, Mr Thomas, ydy “Bydd y caffi yn creu gwaith”. Jôc, os bu un erioed! Yn ôl eich cais cynllunio (oedd yn darllen fel pennod o ffuglen) “Bydd yma 3 swydd rhan amser, tymhorol...” (Ebrill i tua mis Medi). Ydy hynny’n gwarantu gwariant o £340,000 ar gaffi? Mae’n amlwg nad ydych yn byw yn y byd real. Ni fyddai’r sector breifat yn breuddwydio am y fath beth – nac yn cael caniatâd cynllunio! A chofier y bydd y gost i chi o redeg y lle ar ben hynny (trydan, cynnal a chadw offer a.y.b.) gan na fydd y tenant, pŵr dab, yn debyg o allu fforddio talu rhent heb sôn am y costau yna o’i enillion prin o socio bag te tila mewn myg.
I rwbio halen i’r briw, dywedwch mai eich bwriad hefyd yw “gwella economi’r ardal”. O ble ar y ddaear y cawsoch chi’r syniad yna? Lle bach ydy Tal-y-llyn. Mae yma 4 lle yn y cwm yn barod yn darparu bwyd a diod i ymwelwyr, a llawer yn y gymdogaeth agos. Does dim eisiau economegydd i weld mai gwneud drwg i fusnesau’r ardal, felly, wnaiff eich caffi bondigrybwyll. Egwyddor y cyw gog: cystadlu yn y tymor gwyliau a chau wedyn! Mae’n rhaid bod gennych het go fawr i allu siarad cymaint o ddwli trwyddi!
Fel pe na bai’r pentwr uchod o rwdl gennych yn ddigon, dywedwch eich bod am wario peth o’r £340,000 ar “adnewyddu arddangosfa ym Mwthyn Ystradlyn” gerllaw. Ond dyma’r gwir plaen, does yna ond ychydig iawn o flynyddoedd ers pan yr “adnewyddwyd” yr arddangosfa sydd yno’n barod, ond DOES NEB BRON WEDI EI GWELD! A pham hynny? Oherwydd bod y DRWS AR GAU! a hynny, meddech chi eich hunain, am eich bod wedi methu darparu arian i dalu i rywun tymhorol i fod yno i dderbyn grwpiau a thrafod yr arddangosfa. Ydy hynna’n enghraifft o reolaeth dda? Barned y byd. A rŵan rydych am wario £340,000 ar freuddwyd gwrach…...Ond wrth gwrs rydych wedi datguddio beth yw eich prif fwriad wrth godi’r caffi, sef yn syml, sicrhau y bydd yno rywun yn y tymor gwyliau i gario’r cyfrifoldeb o AGOR DRWS YR ARDDANGOSFA yn YSTRADLYN er mwyn i chi gael golchi eich dwylo o’r cyfrifoldeb. A fu erioed y fath esgus melltigedig a difäol dros godi unrhyw adeilad erioed? A fu erioed unrhyw reswm mwy camarweiniol dros ddenu arian o Ewrop ac o’r Cynulliad?
Eliffant gwyn fydd y caffi, y treth dalwr fydd yn talu i’w gynnal a bydd ar gau y rhan fwyaf o’r amser. A byddwch chwithau wedi niweidio am byth y mynydd yr ydych yn cael eich talu i’w warchod. Hapus, rŵan, Mr Roger Thomas a’ch criw?
Marian Rees,
Tal-y-llyn