Llythyrau

RSS Icon
25 Mawrth 2011

Sesiwn holi ac ateb

Annwyl Olygydd,

Mae Age Cymru a Senedd Pobl Hŷn Cymru yn gwahodd pobl dros 50 mlwydd oed i ddigwyddiad holi ac ateb arbennig yng Nghaerdydd ar Ebrill 18, 2011.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Olygydd Gwleidyddol ITV Cymru, Adrian Masters, a bydd yn cynnwys panel o uwch wleidyddion o’r pedair prif blaid yng Nghymru.

Bydd etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai yn destun brwydr etholiadol gref.

Credwn ei fod yn bwysig ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn i ganolbwyntio meddyliau ymgeiswyr a swyddogion pleidiau yn yr etholiad ar anghenion a dyheadau pobl hŷn.

Yn ogystal, mae hwn yn gyfle i’w hatgoffa y bydd pobl hŷn yn chwarae rhan flaenllaw o ran penderfynu canlyniadau’r etholiad ym mhob etholaeth ledled Cymru.

Os hoffai’ch darllenwyr fynychu’r digwyddiad, cael mwy o wybodaeth neu gyflwyno cwestiwn i’r panel, mae croeso iddynt gysylltu â Kathy Lye ar 029 2043 1555 neu drwy anfon neges e-bost at Kathy.lye@agecymru.org.uk

Rhagwelwn y bydd hwn yn ddigwyddiad poblogaidd iawn ac felly caiff lleoedd eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

Robert Taylor OBE

Prif Weithredwr

Age Cymru

Rhannu |