Llythyrau

RSS Icon
25 Mawrth 2011

Angen symud Cymru ymlaen

Annwyl Olygydd,

Mae’r bleidlais ‘Ie’ fawr yn ein refferendwm diweddar yn golygu, am y tro cyntaf mewn pedair canrif, y bydd cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Mae hyn yn gwneud yr Etholiad Cyffredinol Cymreig ar Fai 5 yn un o’r rhai mwyaf cyffrous a phwysig hyd yma.

Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer llywodraeth yn ein cynhadledd yng Nghaerdydd dros y penwythnos nesaf. Mae’r cychwyn newydd hwn yn galw am syniadau newydd. Er mwyn cael Cymru well, rhaid i ni wneud ein system addysg yn hanes o lwyddiant yn y ddegawd nesaf, creu miloedd o swyddi a phrentisiaethau cynaliadwy a gwella’r gwasanaeth iechyd i bawb. Dyw rheoli Cymru ddim yn ddigon da – rhaid i ni drawsnewid Cymru.

Fel partneriaid mewn llywodraeth, mae’r Blaid wedi cychwyn ar y gwaith hwnnw. Byddai llywodraeth y Blaid yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Bydd Llafur yn gadael i Gymru fod yn y cefn fel y gwnaethant yn y gorffennol. Bydd Plaid yn symud Cymru ymlaen.

Hoffwn eich gwahodd i ddod i’n cynhadledd i drafod y dyfodol gyda ni. Gallwn oll chwarae ein rhan yn adeiladu’r Gymru newydd.

Jill Evans ASE

Llywydd Plaid Cymru

Rhannu |