Llythyrau

RSS Icon
25 Mawrth 2011

Meddyliwch cyn ticio blwch Cristnogaeth

Annwyl Olygydd,

Hoffwn annog pob darllenydd i feddwl yn ofalus dros y dyddiau nesaf am eu hateb i’r cwestiwn am grefydd yng Nghyfrifiad 2011. Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn cael eu defnyddio gan lywodraeth ganolog, llywodraeth leol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i benderfynu ar sut i redeg gwasanaethau a chreu polisïau.

Yn y Cyfrifiad diwethaf, ticiwyd y blwch “Cristnogaeth” gan lawer sydd ddim yn arddel unrhyw gred Gristnogol, nac yn mynychu unrhyw fath o addoldy na chwaith yn ymgysylltu â Christnogaeth mewn unrhyw ffordd. Dengys arolygon barn dirifedi eraill fod ’na lawer mwy o bobl ddigrefydd yng Nghymru sy’ ddim wedi cael eu cyfrif yn gywir yng Nghyfrifiadau’r gorffennol.

Trwy dicio “Cristnogaeth” yn hytrach na “Dim crefydd”, mae’r canlyniadau wedi dylanwadu ar bolisi pob haen o lywodraeth. Arweiniodd hynny hefyd at gynnydd yn y nifer o ysgolion dadunol a gwahaniaethol (er bod arolygon barn yn gyson ddangos fod y rhelyw o’r boblogaeth yn gwrthwynebu’r fath ysgolion), symiau enfawr o arian cyhoeddus ar gyfer “grwpiau ffydd” mewn llawer ardal, ynghyd â phenodi “ymgynghorwyr ffydd” i adrannau llywodraeth.

Rwyf felly’n annog eich darllenwyr sydd ddim yn canlyn neu uniaethu gydag unrhyw grefydd arbennig i dicio’r blwch “Dim crefydd” ar ffurflen y Cyfrifiad gan feddwl yn ddwys mai rhagrith fyddai gwneud unrhyw beth gwahanol.

Mae’n eitha’ posib mai dyma’r Cyfrifiad olaf a gynhelir ac mae felly’n hynod bwysig y seilir polisïau’r dyfodol ar ystadegau cywir a dilys.

Androw Bennett

Llanarthne

Rhannu |