Llythyrau

RSS Icon
25 Mawrth 2011

Cynulleidfa yn bodoli

Annwyl Olygydd,

Wrth gerdded allan o berfformiad Theatr Genedlaethol Cymru o Ddeffro’r Gwanwyn yng Nghanolfan y Mileniwm. ’roeddwn yn teimlo ar ben fy nigon.

Dwsin o actorion gorau Cymru, ac yn eu plith 10 actor ieuanc dan 28 oed, eu llefaru’n glir a chlywadwy, eu canu yn rhagorol a’u dawnsio yn rhyfeddol; y band a’r coreograffi yn gampus.

Y canlyniad oedd i ni gael perfformiad teilwng o’r gwaith ac o Theatr Genedlaethol, perfformiad na fyddai cywilydd arna i’w weld yn cynrychioli’n gwlad mewn unrhyw ŵyl theatr ryngwladol. Melys moes mwy.

Gyda llaw, fe werthwyd yr holl docynnau am y tri pherfformiad; mae cynulleidfa yn bodoli felly.

Arthur Morris Jones,

Gwenfô, Caerdydd

Rhannu |