Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Ymgyrch yn parhau

Annwyl Olygydd,

Ysgrifennaf er mwyn diolch i bawb sydd wedi cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i achub S4C, unig sianel teledu Cymraeg y byd.

Hoffwn ddiolch i’r miloedd o bobl sydd wedi cymryd rhan yn ein protestiadau, mynychu ein ralïau, ysgrifennu at wleidyddion a gwrthod talu eu trwydded teledu hyd yn hyn. Mae’n hymgyrch yn parhau a gyda’ch cefnogaeth gallwn ni ennill y frwydr yn erbyn penderfyniadau annoeth y Llywodraeth a’r BBC yn Llundain.

Byddwn ni’n cyflwyno ein deiseb yn erbyn toriadau o dros 94% i gyllideb y sianel yn San Steffan ddiwedd y mis. Gofynnaf i chi felly ddychwelyd y deisebau sydd gyda chi at Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth SY23 2AZ cyn gynted â phosib.

Hefyd, fe fyddwn ni, gyda nifer o fudiadau eraill, yn cynnal lobi yn Llundain yn erbyn y toriadau i’r sianel ac o blaid S4C newydd, ar ddydd Mercher 30ain Mawrth. Os hoffech chi ymuno â ni, cysylltwch â’n prif swyddfa ar 01970 624501 neu e-bostiwch swyddfa@cymdeithas.org

Bethan Williams,

Cymdeithas yr Iaith

Rhannu |