Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Mwy o ryggyr!

Annwyl Olygydd,

Diddorol oedd darllen am y pedwar dewis a roddwyd ger bron Gynhyrchwyr Teledu Annibynnol gan S4C yn ddiweddar. Mae’n debyg fod un o’r dewisiadau yn cynnwys “mwy o ryggyr” ar S4C.

Edrychais ar yr arlwy bresennol ar S4C yng nghylchgrawn wythnosol y Western Mail heddiw.

Sadwrn 12/3 - Ryggyr o 4.15 - 7.15, a “Jonathan”, sioe siarad â thema ryggyr rhwng 9.50 - 10.50.

Sul 13/3 - Ryggyr o 6.00 - 7.00.

Llun 14/3 - “Clwb Rygbi Shane” o 11.35

Mawrth 15/3 - “Clwb Rygbi Shane” o 9.00 - 9.30

Mercher 16/3 - Dim ryggyr!!!

Iau 17/3 - Dim ryggyr am yr ail ddiwrnod yn olynol - a yw hyn yn record?

Gwener 18/3 - Nôl i normal - Ryggyr o 7.25 - 9..45, yna “Jonathan” (mwy o ryggyr) 9.45 - 10.45, ac am 10.45 -11.20, “Clwb Rygbi Shane”.

Ar ben hyn, gallwn fod yn siŵr y bydd mwy na digon o siarad am ryggyr ar y Newyddion, ac ar “Wedi 7”.

Oes yna sianel deledu sy’n dangos paent yn sychu? Byddai’n llawer mwy diddorol na’r ryggyr diddiwedd ar S4C.

Rolant Ellis,

Aberystwyth

Rhannu |